Rhinog Fawr

Oddi ar Wicipedia
Rhinog Fawr
Mathmynydd, copa Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr720 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.8417°N 3.9969°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH6570029012 Edit this on Wikidata
Manylion
Amlygrwydd363 metr Edit this on Wikidata
Rhiant gopaY Llethr Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddRhinogydd Edit this on Wikidata
Map

Mae Rhinog Fawr yn fynydd yn y Rhinogydd yng Ngwynedd; cyfeiriad grid SH656290. Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 357metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf. Fel y rhan fwyaf o'r Rhinogydd, ceir creigiau wedi eu gorchddio gan rug, sy'n gwneud ei ddringo yn waith caled. Gellir ei ddringo trwy gychwyn gerllaw Llyn Cwm Bychan a dringo'r Grisiau Rhufeinig i ben Bwlch Tyddiad, yna troi i'r dde fymryn cyn man uchaf y bwlch i ddringo Rhinog Fawr. Dull arall yw cychwyn o ffermdy Maesygarnedd yng Nghwm Nantcol, man geni John Jones, Maesygarnedd. Oddi yma gellir dringo Bwlch Drws Ardudwy, sydd rhwng Rhinog Fawr a Rhinog Fach, yna troi i'r chwith ym mhen y bwlch i gyrraedd y copa.

Er gwaethaf ei enw, nid Rhinog Fawr yw'r copa uchaf yn y Rhinogydd; mae'r Llethr yn 756 metr o uchder.

Dosbarthu copaon[golygu | golygu cod]

Dosberthir copaon Cymru, a gweddill copaon gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl eu huchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Marilyn (mynydd), Hewitt a Nuttall. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Uchder y copa o lefel y môr ydy 720 metr (2362 tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ar 28 Hydref 2001.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolennau allanol[golygu | golygu cod]