Y Llethr
Math | mynydd, copa |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 756 metr |
Cyfesurynnau | 52.81285°N 3.98763°W |
Cod OS | SH6613725777 |
Manylion | |
Amlygrwydd | 561 metr |
Rhiant gopa | Moel Siabod |
Cadwyn fynydd | Rhinogydd |
Y Llethr yw copa uchaf y Rhinogydd yng ngogledd Cymru; cyfeiriad grid SH661257. Saif i'r de o Rhinog Fach, gyda Llyn Hywel rhyngddynt, ac i'r gogledd o Diffwys dros Grib-y-rhiw. Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 195metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf.
Gellir dringo'r mynydd o'r gorllewin, gan gychwyn yng Nghwm Nantcol, naill ai'n uniongyrchol neu drwy ddringo i Fwlch Drws Ardudwy ac i gopa Rhinog Fach yn gyntaf.
Dosbarthu copaon
[golygu | golygu cod]Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Marilyn (mynydd), Hewitt a Nuttall. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghyd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Uchder y copa o lefel y môr ydy 756 metr (2480 tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ar 28 Mawrth 2010.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Rhestri copaon a sut y cânt eu dosbarthu
- Rhestr mynyddoedd Cymru
- Rhestr o Gopaon Cymru
- Rhestr Mynyddoedd yr Alban dros 2,000'