John Jones (Maesygarnedd)

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth John Jones, Maesygarnedd)
Neidio i: llywio, chwilio

Roedd John Jones, Maesygarnedd (159717 Hydref 1660) yn un o'r gwŷr a arwyddodd warant marwolaeth y brenin Siarl I, brenin Lloegr ac yn frawd-yng-nghyfraith i Oliver Cromwell, Arglwydd Amddiffynydd Lloegr.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Maesygarnedd

Cafodd ei eni yn ffermdy Maesygarnedd (neu Maes y Garnedd) yng Nghwm Nantcol, Ardudwy, yn yr hen Sir Feirionnydd (de Gwynedd heddiw), yn fab i Thomas Jones. Oherwydd nad ef oedd y mab hynaf gyrrwyd ef i Lundain i wasanaethu teulu Myddleton. Priododd Margaret merch John Edwards, Stanstey.

Pan ddechreuodd Rhyfel Cartref Lloegr, ymunodd John Jones â byddin y Senedd. Erbyn 1646 roedd yn ymladd yng ngogledd Cymru ym myddin Syr Thomas Mytton fel Cyrnol, a'r flwyddyn wedyn daeth yn Aelod Seneddol dros Sir Feirionnydd.

Roedd yn aelod o'r cwrt a fu'n profi Siarl I ar ddiwedd yr ail Ryfel Cartref, ac roedd yn un o'r rhai a roddodd eu henwau ar warant marwolaeth y brenin. Fe'i dewiswyd yn gomisiynwr Taeniad yr Efengyl yng Nghymru. Ym 1650 aeth i Iwerddon yn brif gomisiynydd i weinyddu'r wlad, ac yn 1655 gwnaed ef yn gomisiynydd dros ogledd Cymru. Roedd ei wraig gyntaf wedi marw yn yr Iwerddon y 1651, ac y 1656 ail-briododd a Katherine, chwaer Oliver Cromwell.

Yn dilyn marwolaeth Cromwell ac ymddiswyddiad ei fab Richard Cromwell, fe gymerwyd John Jones yn garcharor gan wŷr y cadfridog George Monck yn 1660. Fe'i cafwyd yn euog o deyrnfradwriaeth, a chafodd ei grogi, ei ddiberfeddu a'i chwarteru yn Llundain ar 17 Hydref 1660.

Roedd Jones yn ŵr crefyddol iawn ac roedd yn gohebu a Morgan Llwyd a Vavasor Powell, a threfnodd i argraffu rhan o waith Morgan Llwyd yn Iwerddon.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940 (Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion)

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]