Rhinog Fach
Math | mynydd, copa |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 712 metr |
Cyfesurynnau | 52.8239°N 3.9842°W |
Cod OS | SH6648727027 |
Manylion | |
Amlygrwydd | 148 metr |
Rhiant gopa | Y Llethr |
Cadwyn fynydd | Eryri |
Mae Rhinog Fach yn fynydd yn y Rhinogydd yng Ngwynedd. Saif fymryn i'r de o Rhinog Fawr ac i'r gogledd o Y Llethr. Fel y rhan fwyaf o'r Rhinogydd, ceir creigiau wedi eu gorchuddio gan rug, sy'n gwneud ei ddringo yn waith caled. Wrth droed Rhinog Fach mae Llyn Hywel. Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 565metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf.
Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Is-Farilyn, Hewitt, Nuttall a HuMP. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Uchder y copa o lefel y môr ydy 712 metr (2336 tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ar 28 Hydref 2001.
Dringo
[golygu | golygu cod]I ddringo'r mynydd rhaid anelu am Fwlch Drws Ardudwy, rhwng Rhinog Fach a Rhinog Fawr. Y ffordd hawddaf o'i gyrraedd yw trwy Gwm Nantcol, yn cychwyn o Lanbedr. Gellir parcio ger ffermdy Maesygarnedd, hen gartref John Jones, Maesygarnedd. Gellir hefyd ddilyn llwybr heibio Llyn Hywel ac i ben y bwlch rhwng Rhinog Fach ac Y Llethr. Mae modd hefyd ei ddringo o'r dwyrain, gan gychwyn ychydig i'r de o bentref Trawsfynydd ac anelu am Fwlch Drws Ardudwy o'r cyfeiriad yma, ond mae'n daith llawer hirach.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Rhinog Fawr y chwaer-fynydd
- Rhestri copaon a sut y cânt eu dosbarthu
- Rhestr mynyddoedd Cymru
- Rhestr o Gopaon Cymru
- Rhestr Mynyddoedd yr Alban dros 2,000'