Teyrnfradwriaeth

Oddi ar Wicipedia

Teyrnfradwriaeth yw brad yn erbyn y teyrn neu'r wlad yr ystyrir fod gan y troseddwr ddyletswydd o deyrngarwch tuag ato/ati. Fel rheol, ystyrir fod gan ddinasyddion gwlad ddyletswydd o deyrngarwch tuag ati, ond gellir ymestyn hyn i bobl sy'n byw yn y wlad heb fod yn ddinasyddion.

Esiamplau o deyrnfradwriaeth yw cymryd rhan mewn rhyfel yn erbyn y wlad, cyflenwi gwybodaeth gyfrinachol i elynion y wlad, ceisio lladd y teyrn neu arlywydd neu geisio dymchwelyd y llywodraeth trwy drais. Yn hanesyddol, defnyddid y gosb eithaf ar gyfer y sawl a geid yn euog o deyrnfradwriaeth, ac mae hyn yn parhau i fod yn wir mewn rhai gwledydd.

Roedd y diffiniad o frad yn hanesyddol, hefyd yn cynnwys mân fradwriaeth, sef llofruddiaeth gan berson yr ystyrid fod arno neu arni ddyletwswydd o deyrngarch i'r sawl o laddwyd, er enghraifft llofruddiaeth gŵr gan ei wraig neu feistr gan ei was.

Rhai pobl a ddienyddiwyd am deyrnfradwriaeth[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am y gyfraith. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]