Llyn Eiddew Mawr

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Llyn Eiddew-mawr)
Llyn Eiddew Mawr
Mathllyn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd22 acre Edit this on Wikidata
GerllawLlyn Eiddew Bach Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.884796°N 4.013791°W Edit this on Wikidata
Map

Mae Llyn Eiddew Mawr yn llyn yng Ngwynedd.

Saif y llyn, sydd ag arwynebedd o 22 acer, i'r dwyrain o bentref Talsarnau a fymryn i'r gorllewin o gopaon Moel Ysgyfarnogod a Craig Ddrwg yn y Rhinogau. Caiff ei ddefnyddio ar gyfer cyflenwi dŵr ac ar gyfer pysgota. Mae llyn arall, llawer llai, Llyn Eiddew-bach gerllaw. Mae'r nant sy'n llifo o'r llyn yn ymuno ag Afon Artro gerllaw Cwm Bychan.

I'r dwyrain o Lyn Eiddew Mawr ceir Llyn Du, llyn bychan dan glogwynni Craig Ddrwg.