Siôl bersli

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Y siôl bersli enwocaf yng nghelf Cymru: mae Siân Owen yn gwisgo enghraifft ysblenydd fel rhan o'i gwisg draddodiadol yn y llun Salem (1908) gan Sydney Curnow Vosper

Eitem o ddillad menywod a oedd yn ffasiynol ledled Ewrop yn y 19g, ond yn enwedig yng Nghymru, oedd siôl bersli, neu siôl besli. Roedd y siôl wlân wedi'i wehyddu'n gywrain, yn ymgorffori patrwm paisley, motiff siâp deigryn a darddodd ym Mhersia ac India, ond a ddaeth yn boblogaidd yn Ewrop. Daeth gweithgynhyrchu'r siolau yn gyfystyr â Paisley, yng ngorllewin yr Alban. Mae'r geiriau "persli" a "pesli" yn y Gymraeg yn drawsnewidiadau o'r enw "Paisley".

Roedd y betgwn a'r bais wedi bod yn rhan o'r wisg wledig Gymreig am ganrifoedd, ond cyflwynwyd y siôl ysgwydd i Gymru yn ystod y 19g. Roedd y siôl yn ei hanterth yn ystod y 1850au a'r 1860au, gan fod poblogrwydd gwisgoedd cylchbais llydan yn ei gwneud yn anodd gwisgo cot. Er i'r merched ffasiynol beidio â'u gwisgo yn ddiweddarach, parhaodd merched ardaloedd gwledig a diwydiannol Cymru i wisgo'r siolau hyd at flynyddoedd cynnar yr 20g. Y siôl bersli oedd y math mwyaf poblogaidd o bell ffordd yn ystod cyfnod Victoria. Yr hyn oedd yn nodweddiadol o'r siolau persli oedd y motiffau a ysbrydolwyd gan y Kashmir, a gafodd eu gwehyddu yng Nghaeredin a Norwich o ddiwedd y 1770au, ond fe'u cynhyrchwyd yn gyntaf yn Paisley, Swydd Renfrew. Er nad oedd unrhyw beth yn benodol Gymreig am y siolau, byddai menywod yn eu gwisgo â dillad gwlanen traddodiadol, felly, dros amser, daethant i cael eu hystyried yn rhan annatod o'r wisg Gymreig "draddodiadol".[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Gwisg Gymreig (Amgueddfa Ceredigion)"; Gwefan Casglu'r Tlysau; adalwyd 3 Hydref 2019
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: