Llanengan

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Safle hen mwynglawdd ar gyrion Llanengan

Pentref, plwyf a chymuned yn Llŷn, Gwynedd, yw Llanengan (cyfeiriad grid SH294269). Mae'n gorwedd tuag wyth milltir i'r de-orllewin o dref Pwllheli.

Saif pentref Llanengan heb fod ymhell o'r môr, i'r de-orllewin o Abersoch. Cysegrwyd yr eglwys, sy'n dyddio o oddeutu'r 15g, i Sant Engan.

Heblaw pentref Llanengan, mae cymuned Llanengan yn cynnwys pentrefi Abersoch, Mynytho, Bwlchtocyn a Llangïan. Mae'r boblogaeth yn 2,124.

I'r gorllewin ceir traeth llydan Porth Neigwl. Gellir cyrraedd y bae trwy ddilyn lôn o'r pentref i Dai-morfa lle ceir maes pebyllio a llwybr sy'n arwain i'r traeth.

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod y dudalen]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanengan (pob oed) (1,989)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanengan) (1,074)
  
55.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanengan) (1091)
  
54.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llanengan) (408)
  
42.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  2. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  3. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.