Rhoslefain

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Canol Rhoslefain.

Pentref bychan yn ne Gwynedd yw Rhoslefain. Fe'i lleolir yn ardal Meirionnydd ar y briffordd A493 rhwng Llangelynnin, i'r gorllewin, a Llanegryn i'r dwyrain. Mae'n rhan o Gymuned Llangelynnin.

Mae Bae Ceredigion tua milltir i'r gorllewin o'r pentref. I'r gogledd mae cyfres o fryniau yn codi i gyfeiriaid Cader Idris.

Mae Rhoslefain yn blwyf eglwysig yn Esgobaeth Bangor. Yn yr Oesoedd Canol roedd y plwyf hwnnw'n gorwedd yng nghwmwd Ystumanner.


WalesGwynedd.png Eginyn erthygl sydd uchod am Wynedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato