Deiniolen (pentref)

Oddi ar Wicipedia
Deiniolen
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLlanddeiniolen Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.146°N 4.121°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH581631 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auSiân Gwenllian (Plaid Cymru)
AS/auHywel Williams (Plaid Cymru)
Map
Mae'r erthygl hon yn cyfeirio at y pentref yng Ngwynedd. Ceir sant hefyd o'r un enw, Deiniolen (sant).

Pentref yng nghymuned Llanddeiniolen, Gwynedd, Cymru, yw Deiniolen[1][2] ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Saif yn ardal Arfon, rhwng Mynydd Llandygái a Llanberis ac wrth droed Elidir Fawr. Gerllaw iddo mae dau bentref llai, Dinorwig a Chlwt-y-Bont.

Tyfodd y pentref o ganlyniad i dwf Chwarel Dinorwig, sydd ychydig i’r de. Agorwyd Capel Ebenezer ym 1823 a Capel Cefn y Waen ym 1825. Symudodd llawer o bobl o Ynys Môn i'r pentref, gyda rhai o ardal Llanbabo yn benodol, gan egluro llysenw'r pentref, sef Llanbabo[3] neu Llanbabs[4].

Ym 1857 adeiladwyd Eglwys Llandinorwig ar gyrion y pentref, gydag arian gan deulu Assheton-Smith o’r Faenol, perchenogion Chwarel Dinorwig.

Bu trychineb yn yr ardal yn 1899, pan aeth trip Ysgol Sul Eglwys Llandinorwig i Bwllheli a boddwyd deuddeg o’r aelodau, naw ohonynt yn blant, pan ddymchwelodd cwch yn y bae yno.

Caewyd Chwarel Dinorwig yn 1967, ac effeithiodd hyn yn fawr ar economi’r ardal. Erbyn hyn tair siop sydd yn Neiniolen, Y Post, Crefftau Elidir a'r Co-op. Mae Menter Fachwen yn cynnal caffi yn y pentref, ac mae dau dafarn yno. Rhed wasanaethau bws rheolaidd oddi yno i Gaernarfon a Bangor. Mae ysgol gynradd yn y pentref o hyd, sef Ysgol Gwaun Gynfi.

Mae Seindorf Arian Deiniolen yn adnabyddus iawn yn yr ardal, a chynhelir eisteddfod flynyddol.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Siân Gwenllian (Plaid Cymru)[5] ac yn Senedd y DU gan Hywel Williams (Plaid Cymru).[6]

Enwogion[golygu | golygu cod]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Idris Thomas Pel goch ar y dŵr: hanes trychineb Ysgol Sul Dinorwig (Gwasg Carreg Gwalch, 1999) ISBN 0-86381-586-3

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 20 Ionawr 2022
  3. "Cyngor Cymuned Llanddeiniolen Community Council". cyngorllanddeiniolen.cymru. Cyrchwyd 2022-01-20.
  4. "BBC - Gogledd Orllewin - Buddugoliaeth i Gav a Band Llanbabs!". www.bbc.co.uk. Cyrchwyd 2022-01-20.
  5. Gwefan Senedd Cymru
  6. Gwefan Senedd y DU

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]