Llanrug
| Math | cymuned, pentref |
|---|---|
| Poblogaeth | 2,780, 2,755, 2,911 |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Gwynedd |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 53.148°N 4.193°W |
| Cod SYG | W04000086 |
| Cod OS | SH534634 |
| Gwleidyddiaeth | |
| AS/au Cymru | Siân Gwenllian (Plaid Cymru) |
| AS/au y DU | Hywel Williams (Plaid Cymru) |
![]() | |
Pentref gweddol fawr a chymuned yng Ngwynedd, Cymru, yw Llanrug[1][2] (
ynganiad ). Saif 4 milltir i'r dwyrain o dref Caernarfon, 7 milltir i'r de o Fangor ar briffordd yr A4086 rhwng Caernarfon a Llanberis, sydd 3 milltir i'r gogledd-orllewin.
Llifa Afon Rhythallt heibio'r pentref, gan newid ei henw i Afon Seiont ar ôl llifo dan Bont Rhythallt. Mae ysgol uwchradd Ysgol Brynrefail yma. Yn fras, saif tua hanner ffordd rhwng Afon Menai a'r Wyddfa. I'r de o'r pentref gwelir ucheldir Cefn Du; i'r de-ddwyrain cwyd yr Wyddfa a'i chriw, ac i'r dwyrain y ddwy, sef Elidir Fach ac Elidir Fawr gyda thomennydd y chwarel llechi.
Llanrug yw'r pentref mwyaf yn ardal Arfon. Mae ganddo'r canran uchaf (81%) o siaradwyr Cymraeg a phoblogaeth o tua 2,500. Enw gwreiddiol y pentref oedd "Llanfihangel-yn-y-Grug" a enwyd ar ôl Eglwys Sant Mihangel sydd tua hanner milltir i'r gorllewin o'r pentref.
Cyfleusterau
[golygu | golygu cod]Ceir ysgol gynradd o tua 300 disgybl ac ysgol uwchradd Brynrefail sydd â thros 700 o ddisgyblion. Mae dwy siop nwyddau cyffredinol (Spar a Co-Op) a dau dŷ tafarn yn y pentref, a gwestai ac amryw parc gwyliau ar ei gyrion.
Ar y sgwâr ceir swyddfa'r Post yn y Spar ac mae yna siop sglodion, cigydd, delicatessen a barbwr ychydig gamau i lawr Ffordd yr Orsaf. Mae gwasanaeth bws yn rhedeg yn rheolaidd drwy'r pentref i gysylltu â Chaernarfon, Llanberis, Waunfawr, Deiniolen a Bangor.
Chwaraeon
[golygu | golygu cod]Mae Clwb Pêl-droed Llanrug Unedig yn rhedeg dau dîm oedolion a thimau ieuenctid. Ffurfiwyd y clwb yn 1922. Mae gemau cartref wedi cael eu chwarae ar Gae Eithin Duon ers 1970. Yn ystod yr 80au a'r 1990au fe ffilmiwyd rhai golygfaon o C'mon Midffild.
Cyfrifiad 2011
[golygu | golygu cod]Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5]
Natur a hanes hir
[golygu | golygu cod]Fe aeth y rhewlif olaf i lawr Dyffryn Peris o gopa'r Wyddfa tuag at y môr ond fe arhosodd tua Phont Rug gan i'r tywydd gynhesu digon. Fel rydych chi'n gadael Cwm-y-Glo am Lanrug rhaid dringo nes cyrraedd Glyntwrog[1]. Ar y daith yna rydych yn gyrru dros y twmpath olaf wnaeth y rhewlif ei wthio o'i flaen. Meddyliwch, rhyw 300 metr o uchder o rewlif yn gwthio'r tir tuag at Lanrug. Yna degau ar ddegau o afonydd o'r toddiant yn rhedeg allan yn chwyrn tua'r môr ac afon Menai.
O gael cymaint o afonydd yn chwyrlio tua'r môr roedd yna gerrig mân yn cael eu hysgubo hefyd o'r rhew. Mewn mannau tawel a phyllau yn yr afonydd roedd y cerrig yn disgyn a gwaddodi. Ymhellach, lle'r oedd yr afonydd hyn yn tasgu o'r rhew roeddent yn gadael tomen anferth o gerrig man llyfn eu hwyneb. Mae yna ardal yn Llanrug o'r enw Bryn Gro. Ardal a oedd ddwy ganrif yn ôl yn cyflenwi gro'n fasnachol. Gro o oes y rhewlif.[6]
Adnabod yr ardal
[golygu | golygu cod]Stabla’
[golygu | golygu cod]Dyna’r enw ar lafar am y clwstwr tai rhwng Pontrhythallt a Brynrefail ac yng nghysgod Craig y Dinas. Mae’n fwy na thebyg fod caer rywdro ar gopa Craig y Dinas, a chaer arall Carreg y Fran yn union gyferbyn ac ar draws Afon Rhythallt, yn gwarchod mynediad ymhellach i fyny’r dyffryn. Roedd yr afon yn llifo allan o Lyn Bogelyn , ac yn cyrraedd bron at odre Craig y Dinas. Ond pam Stabla’?
Gweddol ddiweddar yw’r enw o’i gymharu a’r gaer uwchben, ac y mae’n ymwneud â datblygiad rhyfeddol Chwarel Dinorwig ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r gwelliannau cynyddol i gario’r llechi i borthladd Y Felinheli neu’r Port Dinorwic bondigrybwyll.
Yn y cyfnod cynharaf roedd y llechi’n cael eu cario mewn troliau o’r Allt Ddu yn Ninorwig, eu gollwng i lawr inclên Clwt y Bont, ac yna ymlaen ar hyd gweundir Llanddeiniolen i’r porthladd. Ond fel roedd rhannau isaf y chwarel yn cael ei datblygu roedd angen cario’r llechi i fyny’r llechwedd serth i’r Allt Ddu – trafferthus a chostus!
Efallai mai dyna pam y talodd Sgweiar y Faenol grocbris am fferm Y Fachwen ganol y 1830’au, er mwyn cael gafael ar y tir ar hyd glannau Llyn Padarn; tir oedd yn ddigon gwastad i adeiladu ffordd haearn arno. Ond yn ystod ei dyddiau cynnar, ceffylau oedd yn tynnu’r wagenni. Yn ôl Griffith Ellis (Goruchwyliwr y Chwarel) “dechreuwyd gweithio’r Padarn Railway â cheffylau y 3ydd o Fawrth 1843.” Cwta bum mlynedd y parhaodd hyn, oherwydd erbyn mis Mawrth 1848 roedd injan stêm yn tynnu’r wagenni, a daeth oes y ceffyl i ben. Ond am y pum mlynedd hynny roedd angen rhywle i gadw’r ceffylau, ac yng nghysgod Craig y Dinas yr adeiladwyd stablau – ac mae’r enw wedi aros hyd heddiw.
Does ryfedd felly nad oes arwydd o adeiladau yn yr ardal ar Fap Degwm Llanddeiniolen, a dim annedd o gwbl ar Gyfrifiad 1841 chwaith. Ond erbyn 1851, ac oes y ceffylau eisoes wedi darfod, mae dwsin o dai yno yn cario’r enw Craig y Dinas. Ac y mae’r wybodaeth yn gysylltiedig â’r cyfrifiad hwn yn dangos pwysigrwydd y chwarel a’r rheilffordd. Does neb yn byw mewn dau o’r tai. Yn y gweddill cofnodir 5 o chwarelwyr, un ‘engine driver’, un ‘fireman’, un ‘engine cleaner’ ac un ‘rail guard’. Gellir amcangyfrif felly fod y tai wedi eu hadeiladu rhwng 1843 (ar gyfer y rhai oedd yn gofalu am y ceffylau) a 1848 pan oedd angen gweithwyr yn ymwneud â’r tren stêm.
Erbyn 1861 ni chofnodir ond wyth tŷ, a dau yn unig o’r trigolion oedd â gwaith yn ymwneud â’r rheilffordd – un ‘guard on the railway’ ac un ‘engine cleaner’. Mae pedwar ar ddeg o dai yno erbyn 1871, ac un o’r rheini yn wag. Mae’r ‘guard’ yn dal yno, ond mae’r ‘engine cleaner’ bellach yn ‘locomotive cleaner’, a’r swydd yn swnio gymaint a hynny yn bwysicach ! Yn 1881 daw’r enw Madog Terrace am y tro cyntaf yn y Cyfrifiad – naw o dai, un yn wag, a dim un o’r preswylwyr a gwaith yn gysylltiedig â’r rheilffordd na’r trên. Ond mae Craig y Dinas yn dal yno gyda deg o dai. O’r preswylwyr, mae dau ‘plate layer’a thri ‘engine smith’.
Mae’n ymddangos fod tai Madog Terrace wedi eu codi rywdro rhwng 1871 ac 1881 – rhes o dai deulawr bychan iawn o ran maint, a gardd gul yn ymestyn o’u cefnau i fyny llethrau isaf y graig. Y cofnod cynharaf y gallaf ei ddarganfod am yr enw yw 1877, sef cofnod o farwolaeth Hannah Mary Owen, plentyn blwydd a hanner oed. Y cyfeiriad llawn yw Madog Terrace, Llanddeiniolen. Mae adroddiadau papur newydd diweddarach am ardal y Stabla’ yn rhoi’r cyfeiriad fel Madog Terrace, Pontrhythallt a Madog Terrace, Penisarwaen. Ond y cyfeiriad cywir yn ôl y Swyddfa Bost oedd Madog Terrace, Cwm y Glo ! Digon i godi cur pen a phenbleth i unrhyw bostmon !
Ond am ba hyd tybed y bu trigolion Madog Terrace a Chraig y Dinas yn weithwyr ar y rheilffordd? Un digwyddiad a achosodd gryn newid mae’n debyg oedd defnyddio’r trên chwarel i gario gweithwyr i’r Gilfach Ddu. Cychwynnodd y sustem hon yn Awst 1895 [ar ôl tywydd gaeaf eithriadol y flwyddyn honno[7]], a byddai angen i ddreifar y trên fyw yn Y Felinheli neu ym Mhenscoins. Felly diflannodd y gyrrwyr o’r Stabla !
Y platfform rhwng Pontrhythallt a’r Stabla oedd y mwyaf ar y rheilffordd, oherwydd roedd dros 400 o weithwyr yn cael eu codi yno bob dydd – o’r Ceunant, Tan y Coed, Bryngwyn, Llanrug a Phenisarwaun. Ac yng Nghyfrifiad 1901, chwe mlynedd ers i’r trên ddechrau cario gweithwyr i’r chwarel, roedd 27 o chwarelwyr yn byw yn Stabla. Dim ond dau oedd â chysylltiad â’r rheilffordd – un ‘locomotive fitter’ ac un ‘foreman platelayer’.
Daeth oes trên y gweithwyr i ben yn Hydref 1947 [cychwynodd y gwasanaeth yr un flwyddyn â thywydd mawr gaeaf 1895 a daeth i ben ar ol heth fawr y flwyddyn hon [8] [9]], a dirywio fu hanes y chwarel hefyd. Cludwyd y llwyth olaf o lechi ar y trên o’r Gilfach Ddu i Benscoins ddiwedd Hydref 1961, a dechreuwyd ar y gwaith o godi’r rheiliau. Roedd y gwaith wedi ei gwblhau erbyn Chwefror 1963 [ynghanol heth fawr arall[10]]
Roedd rhai o dai Madog Terrace a Chraig y Dinas eisoes wedi eu gwerthu, ac yn 1966 aeth y gweddill ar werth, gyda’r mwyafrif yn mynd am rhyw £600 - £700. A daeth cysylltiad Stabla’ a rheilffordd y chwarel i ben. Mae’r lôn gul sy’n arwain o’r briffordd am ardal Craig y Dinas, ac sy’n rhedeg gyfochrog â gwely’r hen reilffordd yn parhau i gael ei galw yn Lon Stabla’. Stablau a ddefnyddiwyd am gwta bum mlynedd yn parhau i gael eu cofio ar lafar bron i ddwy ganrif yn ddiweddarach[11]
Pobl o Lanrug
[golygu | golygu cod]- Einion Offeiriad, bardd, rheithor y plwyf yn 1349.
- Peter Bailey Williams, hynafiaethydd, person Llanrug am flynyddoedd lawer.
- Dafydd Ddu Eryri, bardd, treuliodd y rhan olaf o'i oes yma.
- Rhun Williams, chwaraewr Rygbi proffesiynol..
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Castell Bryn Bras, ffug gastell o'r 19g ger y pentref.
- Mrs Jones Llanrug
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
- ↑ British Place Names; adalwyd 12 Rhagfyr 2021
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ O Oes y Rhewlifau rhewlifau i rewlif iaith.... gan Gwyndaf Hughes (Eco'r Wyddfa 501 Mai 2022, tudalen 21)
- ↑ Rhew Llyn Padarn https://www.llennatur.cymru/Y-Tywyddiadur?keywords=%2Bbb%3A1895%20%2Bnodiadau%3Apadarn¤tpage=1&recordsperpage=25&dyddiadur=false&oriel=false&bwletinau=false&asc=true#angori
- ↑ Llyn Padarn yn rhewi'n gorn https://www.llennatur.cymru/Y-Tywyddiadur?keywords=%2Bbb%3A1947%20%2Bnodiadau%3Apadarn¤tpage=1&recordsperpage=25&dyddiadur=false&oriel=false&bwletinau=false&asc=true#angori Tyddiadur Prosect Llên Natur (Cymdeithas Edward Llwyd]
- ↑ Bwletin Rhif 48, tudalen 2: hanes tywydd mawr 1947 https://www.llennatur.cymru/Content/Upload/Cylchgrawn48.pdf
- ↑ https://www.llennatur.cymru/Y-Tywyddiadur?keywords=%2Bmm%2Fbb%3A2%2F1963%20%2Bnodiadau%3Apadarn¤tpage=1&recordsperpage=25&dyddiadur=false&oriel=true&bwletinau=true&asc=true#angori
- ↑ Dafydd Whiteside Thomas, Bron y Nant, Llanrug neu ffoniwch 01286673515 neu e-bostiwch dafydd.wthomas@btinternet.com
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- C.P.D. Llanrug
- Llanrug Archifwyd 2008-04-05 yn y Peiriant Wayback ar wefan Cynnal
Dinas
Bangor
Trefi
Abermaw · Y Bala · Bethesda · Blaenau Ffestiniog · Caernarfon · Cricieth · Dolgellau · Harlech · Nefyn · Penrhyndeudraeth · Porthmadog · Pwllheli · Tywyn
Pentrefi
Aberangell · Aberdaron · Aberdesach · Aberdyfi · Aber-erch · Abergwyngregyn · Abergynolwyn · Aberllefenni · Abersoch · Afon Wen · Arthog · Beddgelert · Bethania · Bethel · Betws Garmon · Boduan · Y Bont-ddu · Bontnewydd (Arfon) · Bontnewydd (Meirionnydd) · Botwnnog · Brithdir · Bronaber · Bryncir · Bryncroes · Bryn-crug · Brynrefail · Bwlchtocyn · Caeathro · Carmel · Carneddi · Cefnddwysarn · Clynnog Fawr · Corris · Croesor · Crogen · Cwm-y-glo · Chwilog · Deiniolen · Dinas, Llanwnda · Dinas, Llŷn · Dinas Dinlle · Dinas Mawddwy · Dolbenmaen · Dolydd · Dyffryn Ardudwy · Edern · Efailnewydd · Fairbourne · Y Felinheli · Y Ffôr · Y Fron · Fron-goch · Ffestiniog · Ganllwyd · Garndolbenmaen · Garreg · Gellilydan · Glan-y-wern · Glasinfryn · Golan · Groeslon · Llanaber · Llanaelhaearn · Llanarmon · Llanbedr · Llanbedrog · Llanberis · Llandanwg · Llandecwyn · Llandegwning · Llandwrog · Llandygái · Llanddeiniolen · Llandderfel · Llanddwywe · Llanegryn · Llanenddwyn · Llanengan · Llanelltyd · Llanfachreth · Llanfaelrhys · Llanfaglan · Llanfair · Llanfihangel-y-Pennant (Abergynolwyn) · Llanfihangel-y-Pennant (Cwm Pennant) · Llanfihangel-y-traethau · Llanfor · Llanfrothen · Llangelynnin · Llangïan · Llangwnadl · Llwyngwril · Llangybi · Llangywer · Llaniestyn · Llanllechid · Llanllyfni · Llannor · Llanrug · Llanuwchllyn · Llanwnda · Llanymawddwy · Llanystumdwy · Llanycil · Llithfaen · Maentwrog · Mallwyd · Minffordd · Minllyn · Morfa Bychan · Morfa Nefyn · Mynydd Llandygái · Mynytho · Nantlle · Nantmor · Nant Peris · Nasareth · Nebo · Pant Glas · Penmorfa · Pennal · Penrhos · Penrhosgarnedd · Pen-sarn · Pentir · Pentrefelin · Pentre Gwynfryn · Pentreuchaf · Pen-y-groes · Pistyll · Pontllyfni · Portmeirion · Prenteg · Rachub · Y Rhiw · Rhiwlas · Rhos-fawr · Rhosgadfan · Rhoshirwaun · Rhoslan · Rhoslefain · Rhostryfan · Rhos-y-gwaliau · Rhyd · Rhyd-ddu · Rhyduchaf · Rhydyclafdy · Rhydymain · Sarnau · Sarn Mellteyrn · Saron · Sling · Soar · Talsarnau · Tal-y-bont, Abermaw · Tal-y-bont, Bangor · Tal-y-llyn · Tal-y-sarn · Tanygrisiau · Trawsfynydd · Treborth · Trefor · Tre-garth · Tremadog · Tudweiliog · Waunfawr
