Afon Seiont
| Math | afon |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Gwynedd |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 53.15°N 4.1728°W, 53.1386°N 4.2756°W |
| Aber | Afon Menai |
| Hyd | 14 cilometr |
![]() | |
| Statws treftadaeth | Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig |
| Manylion | |
Afon weddol fer (tua 20 km) yng Ngwynedd, Cymru, yw Afon Seiont. Ystyr y gair "seiont" yn wreiddiol oedd "cryf" neu o bosib "saint". Afon Saint yw'r enw cywir am yr afon nid Seiont, yn ôl yr Athro Gwynedd Peirce, brodor o Gaernarfon.
Ystyrir fel rheol fod Afon Seiont yn tarddu yn Llyn Padarn ger pentref Cwm-y-glo, ond gelwir yr afon yn Afon Rhythallt am y rhan gyntaf o'i thaith tua'r môr, nes cyrraedd Pont Rhythallt ger Llanrug. O'r fan honno ymlaen gelwir hi yn Afon Seiont. Mae'n llifo trwy bentref Pont-rug a heibio Caeathro cyn cyrraedd Caernarfon, lle mae'n cyrraedd y môr gerllaw Castell Caernarfon.
Ceir pysgota da am Eog a Brithyll yn Afon Seiont. Credir fod yr enw Segontium ar y gaer Rufeinig yng Nghaernarfon wedi dod o enw'r afon, sy'n llifo heibio'r gaer honno cyn cyrraedd y dref.

