Cefnddwysarn

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Pentref bychan ym Meirionnydd, Gwynedd yw Cefnddwysarn (neu Cefn-ddwysarn), yn ardal Y Sarnau ar yr A494 ryw dair milltir i'r dwyrain o'r Bala. Mae pentref bychan Y Sarnau ei hun ar y ffordd i Langollen cwta tri chwarter milltir i'r dwyrain.

Rhwng y ddau bentref mae Cors y Sarnau. I'r gogledd mae bryn Cefn Caer-Euni â'i fryngaer fechan Caer Euni (neu Eini). I'r gorllewin mae tref Y Bala a Llyn Tegid ac ar orwel y dwyrain rhed llethrau cadarn Y Berwyn. Mae twmpath - safle castell pren efallai - ar ymyl Cefnddwysarn i'r de.

Enwogion y fro[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae gan yr ardal hon le arbennig yn niwylliant Cymru. Er nad yw'n fawr o le mae wedi magu sawl person enwog.

Yno yn 1859 ar fferm y Cynlas y ganwyd Thomas Edward Ellis (Tom Ellis), un o wleidyddion disgleiriaf ei ddydd ac aelod blaenllaw o'r Rhyddfrydwyr a mudiad Cymru Fydd. Cafodd ei gladdu ym mynwent yr eglwys. Dadorchuddiwyd y goflech iddo sydd i'w gweld yn yr eglwys heddiw gan Lloyd George yn 1910.

Er iddo gael ei eni yn Llanfor, treuliodd y bardd David Roberts (Dewi Havhesp) (1831-1884) y rhan helaeth o'i oes yng Nghefnddwysarn. Teiliwr ydoedd wrth ei alwedigaeth.

Bu'r bardd Robert Williams Parry yn brifathro ysgol Y Sarnau am flwyddyn yn y 1910au cynnar.

Un o enwogion eraill y fro yw Llwyd o'r Bryn, a aned ar fferm rhwng Cefnddwysarn a Llandderfel yn 1888. Mae ei lyfr adnabyddus Y Pethe yn llawn o ddigrifiadau ac atgofion o'r fro a'i chymdeithas drwyadl Gymraeg.

Brodor arall o ardal y Sarnau yw'r prifardd Gerallt Lloyd Owen. Mae rhai o'i gerddi gorau'n ymwneud â chymeriadau a thirlun y fro.

Darllen pellach[golygu | golygu cod y dudalen]

  • T.I. Ellis, Crwydro Meirionnydd (1954)
  • Llwyd o'r Bryn, Y Pethe (1955)