Afon Serw
Gwedd
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Conwy |
Gwlad | Cymru |
Afon yn ne Sir Conwy yw Afon Serw. Mae'n llifo yng nghymuned Ysbyty Ifan. Hyd: tua 5 milltir.
Tardda Afon Serw yn Llyn Serw, llyn bychan sy'n sefyll 1,479 troedfedd[1] i fyny yn ardal Y Migneint. Mae hon yn ardal gorsiog sy'n rhan o Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig y Migneint-Arenig-Dduallt.
Llifa Afon Serw allan o'r llyn i lifo i gyfeiriad y de ar gwrs troellog ac wedyn i'r gogledd, gan lifo trwy gymuned Ysbyty Ifan i lifo i Afon Conwy tua 3 milltir uwchlaw pentref Ysbyty Ifan.[2] Am y rhan fwyaf o'i thaith mae'r tir o'i chwmpas yn gorsiog iawn.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Frank Ward, The Lakes of Wales (Herbert Jenkins, Llundain, 1931).
- ↑ Map OS 1:50,000 Landranger 124 Dolgellau.