Llyn Serw

Oddi ar Wicipedia
Llyn Serw
Mathllyn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolY Migneint Edit this on Wikidata
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr1,479 troedfedd Edit this on Wikidata
GerllawAfon Serw Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.968966°N 3.818165°W Edit this on Wikidata
Map

Llyn yng Ngwynedd yw Llyn Serw. Fe'i lleolir rhwng Ysbyty Ifan a Ffestiniog ym Meirionnydd, yn agos iawn i'r ffin sirol rhwng Gwynedd a Sir Conwy.[1]

Llyn Serw gyda Arenig Fawr yn y cefndir

Saif y llyn bychan hwn 1,479 troedfedd[2] i fyny yn ardal Y Migneint. Mae hon yn ardal gorsiog sy'n rhan o Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig y Migneint-Arenig-Dduallt. Llifa Afon Serw allan o'r llyn i lifo i gyfeiriad y gogledd, dros y ffin i Sir Conwy, a llifo wedyn i Afon Conwy ger Ysbyty Ifan.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Map OS 1:50,000 Landranger 124 Dolgellau.
  2. Frank Ward, The Lakes of Wales (Herbert Jenkins, Llundain, 1931).