The Lakes of Wales
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol |
---|---|
Dyddiad cyhoeddi | 1931 |
Cyfrol ar lynnoedd Cymru gan Frank Ward yw The Lakes of Wales a gyhoeddwyd gan Herbert Jenkins yn Llundain ym 1931. Mae'n llyfr manwl a ystyrir yn gyfeirlyfr o bwys am ei bwnc o hyd er gwaethaf treigl y blynyddoedd.
Disgrifiad
[golygu | golygu cod]Teitl llawn y llyfr yw The Lakes of Wales [:] A guide for anglers and others. The Fishing, Scenery, Legends and Place Names, with some mention of river fishing. Ceir rhagymadrodd a phenodau ar y tirwedd, pysgota, enwau lle a chwedlau a thraddodiadau. Prif gynnwys y gyfrol o dros 260 tudalen yw'r adran faith ar y llynnoedd eu hunain, sy'n disgrifio dros 500 o lynnoedd mawr a bychan wedi'u rhestru yn nhrefn yr wyddor. Ceir mapiau a lluniau du a gwyn hefyd, gyda mynegai llawn ar ddiwedd y gyfrol.[1]
Ymgynghorodd Ward, oedd yn Sais yn enedigol, â sawl arbenigwr Cymreig wrth baratoi ei waith, yn cynnwys T. Gwynn Jones. Holodd yn lleol am wybodaeth am y llynnoedd hefyd gan geisio ymweld â phob un yn bersonol.[2]