Thomas Gwynn Jones
Thomas Gwynn Jones | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 10 Hydref 1871 ![]() Betws-yn-Rhos ![]() |
Bu farw | 7 Mawrth 1949 ![]() Aberystwyth ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | newyddiadurwr, llyfrgellydd, bardd, ysgrifennwr, beirniad llenyddol ![]() |
Cyflogwr | |
Plant | Arthur ap Gwynn ![]() |
Gwobr/au | CBE ![]() |
Newyddiadurwr, bardd, ysgolhaig a nofelydd oedd T. Gwynn Jones, enw llawn Thomas Gwyn Jones (10 Hydref 1871 – 7 Mawrth 1949). Roedd T. Gwynn yn llenor amryddawn a wnaeth gyfraniad pwysig iawn i lenyddiaeth Gymraeg, ysgolheictod Cymreig ac astudiaethau llên gwerin yn hanner cyntaf yr 20g. Roedd hefyd yn gyfieithydd medrus o'r Almaeneg, Groeg, Gwyddeleg a Saesneg. Cafod ei eni yn Gwyndy Uchaf, Betws yn Rhos yn yr hen Sir Ddinbych (sir Conwy heddiw), a'i gladdu ym mynwent Heol Llanbadarn.
Roedd yn fab i Issac a Jane Jones. Priododd Margaret Jane Davies yn 1899.
Bywgraffiad[golygu | golygu cod]
Cafodd T. Gwynn Jones ei addysg gynnar yn Ninbych ac Abergele. Daeth yn is-olygydd Baner ac Amserau Cymru (Y Faner) yn 1890. Ysgrifennodd gofiant ardderchog i'r cyhoeddwr Rhyddfrydol Thomas Gee sy'n ddrych i'w oes yn ogystal â'i waith. Yn 1894 symudodd i Lerpwl a dod yn is-olygydd i Isaac Foulkes. Erbyn 1898 roedd yn is-olygydd ar Yr Herald a'r Caernarvon and Denbigh Herald. Bu wedyn yn olygydd ar Bapur Pawb. Yn 1905, treuliodd sawl mis yn yr Aifft - Alexandria a Chairo - i geisio lleddfu diagnosis o'r diciâu. Yn 1908 bu'n o sylfaenwyr Clwb Awen a Chân yng Nghaernarfon.
Aeth i weithio i Lyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth yn 1909 ar ôl blynyddoedd o newyddiadura, ac wedyn bu'n ddarlithydd yn yr adran Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Yn 1919 daeth yn athro llenyddiaeth Gymraeg yn y coleg hwnnw hyd at ei ymddeoliad yn 1937.
Enillodd gadair Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bangor 1902 am ei awdl Ymadawiad Arthur, a hefyd yn Eisteddfod Genedlaethol Llundain yn 1909.
Anrhydeddwyd ef â D.Lit. Prifysgol Cymru a Phrifysgol Iwerddon, ill dau yn 1938. Roedd yn wrthwynebydd cadarn yn erbyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Cerddodd allan o Gapel Tabernacl, Aberystwyth pan weddïodd y gweinidog am fuddugoliaeth i Brydain yn y rhyfel.
Oriel[golygu | golygu cod]
-
Ymadawiad Arthur a cherddi eraill (Caernarfon, 1910).
-
'Gwyndy', Betws-yn-Rhos; man geni T. Gwynn Jones.
-
T Gwynn Jones yn eistedd yng Nghadair Eisteddfod Bangor 1902, gyda'r Archdderwydd, Hwfa Môn, a'r Orsedd
-
Cyfieithiad T Gwyn Jones o Faust gan Goethe. Cyfres y Werin, 1922
Llyfryddiaeth ddethol[golygu | golygu cod]
Llyfrau T. Gwynn Jones[golygu | golygu cod]
- Caradog yn Rhufain (Wrecsam, 1914). [Drama]
- Dafydd ap Gruffydd (Aberystwyth, 1914). [Drama]
- Tir na N-óg (Caerdydd, 1916). [Drama]
- Dewi Sant (Wrecsam, 1916). [Drama]
- Y Gloyn Byw (Y Drenewydd, 1922). [Drama]
- Anrhydedd (Caerdydd, 1923). [Drama]
- Y Gainc Olaf (Wrecsam, 1934). [Drama]
- Y Dwymyn, 1934–35 (Caerdydd, 1972).
- Dylanwadau (Bethesda, 1986).
- Tudur Aled, (gol.) T. Gwynn Jones, Gwaith Tudur Aled (Caerdydd, 1926). [Golygiad mewn dwy gyfrol o gerddi Tudur Aled.]
- Welsh Folklore and Folk Custom (Llundain, 1930). [Astudiaeth arloesol o lên gwerin Cymru.]
- Marged Enid Griffiths, (gol.) T. Gwynn Jones, Early Vacation in Welsh (Caerdydd, 1937).
- Pietro Mascagni, trosiad i’r Gymraeg gan Dyfnallt Morgan, (gol.) T. Gwynn Jones, Gwyddoch Amdano (Porthmadog, 1987).
- Gounod, (gol. a chyf.) T. Gwynn Jones, Rhowch i mi nerth (Porthmadog, 1987).
- Adolygiad/au: T. Gwynn Jones, Y Faner (17.2.89), 14.
- Ymadawiad Arthur (Caernarfon, 1910). [Cerddi]
- T. P. Ellis, Dreams and memories (Y Drenewydd, 1936), gyda T. Gwynn Jones, ‘Foreward’, t. Vii.
- Caniadau (Wrecsam, 1934) [Cerddi]
- Astudiaethau (Wrecsam, 1935). [Ysgrifau]
- Beirniadaeth a Myfyrdod (Wrecsam, 1935). [Ysgrifau]
- Brethyn Cartref (Caernarfon, 1913). [Straeon]
- John Homer (Wrecsam, 1923). [Nofel]
- Peth Nas Lleddir (Aberdâr, 1921).
- Rhieingerddi’r Gogynfeirdd (Dinbych, 1915). [Astudiaeth o waith y Gogynfeirdd.]
- Cymeriadau (Wrecsam, 1933). [Ysgrifau]
- Detholiad o Ganiadau (Y Drenewydd, 1926).
- Cerddi Hanes (Wrecsam, 1930).
- Gwlad y gân (Caernarfon, 1902). [Cerddi]
- Manion (Wrecsam, 1902).
- ‘Rhagymadrodd’, yn (casg.) W. S. Gwynn Williams, Rhwng Ddoe a Heddiw: Casgliad o Delynegion Cymraeg, (Wrecsam, 1926), tt. 13–18
- Emrys ap Iwan: Cofiant (Caernarfon, 1912). [Cofiant]
- Llenyddiaeth y Cymry: Llawlyfr i Erfydwyr (Dinbych, 1915). [Hanes llenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol.]
- (Gol.) T. Gwynn Jones, Ceiriog (Wrecsam, 1927).
- Llenyddiaeth Gymraeg y Bedwaredd ganrif ar bumtheg (Caernarfon, 1920)
- (Casg. a gol.) T. Gwynn Jones, Y Gelfyddyd Gwta (Aberystwyth, 1929) .
- (Gol.) T. Gwynn Jones, Talhaiarn (Aberystwyth, 1930).
- Johann Wolfgang von Goethe, (tros.) T. Gwynn Jones, Faust (Cyfres y Werin, 1922). [Cyfieithiad o waith mawr Goethe.]
- (Deth. a chyf.) T. Gwynn Jones, Awen y Gwyddyl (Cyfres y Werin, 1923). [Barddoniaeth Wyddeleg mewn cyfieithiad.]
- Brithgofion (Llandybïe, 1944). [Darn o hunangofiant.]
- (Gol.) T. Gwynn Jones, O Oes i Oes (Wrecsam, 1917).
- Llyfr Gwion Bach (Wrecsam, 1924).
- Plant Bach Tŷ Gwyn (Caerdydd, 1928).
- Yn Oes yr Arth a’r Blaidd (Wrecsam, 1913).
- Dyddgwaith (Wrecsam, 1937).
- ‘Lluniau o Gawr y Llenor’, Barddas, rhif. 212–213 (Rhagfyr 1994–Ionawr 1995), t. 47.
- ‘Rhagair’ yn Ioan Brothen, (gol.) John W. Jones, Llinell neu Ddwy (Blaenau Ffestiniog, 1942).
- Cerddi Canu (Llangollen, 1942).
- T. Gwynn Jones ac Arthur ap Gwynn, Geiriadur Cymraeg-Saesneg a Saesneg-Cymraeg (Caerdydd, 1950).
- (Gol.) T. Gwynn Jones, Troeon Bywyd (Wrecsam, 1936).
- Cerddi ’74 (Llandysul, 1974).
- Bardism and Romance: a Study of the Welsh Literary Tradition (Llundain, 1914). [Astudiaeth]
- Modern Welsh Literature (Aberystwyth, 1936).
- Casgliad o eiriau llafar Dyffryn Aman (Caerdydd, 1931).
- ‘Rhagair’, yn (gol.) John W. Jones, Yr Awen Barod: cyfrol goffa Gwilym Deudraeth (1863–1940) (Llandysul, 1943).
- Gorchest Gwilym Bevan (Wrecsam, 1900).
- Gwedi Brad a Gofid (Caernarfon, 1898). [Nofel]
- Y Dwymyn, 1934–35 (Aberystwyth, 1944). [Cerddi]
- Cultural Basis: a study of the Tudor period in Wales (, 1921).
- Llenyddiaeth Wyddelig (Lerpwl, 1916).
- Cân y Nadolig (Llangollen, 1945).
- The Culture and Tradition of Wales (Wrecsam, 1927).
- ‘Rhagair’ yn D. Emrys James, Odl a Chynghanedd (Llandybïe, 1961).
- Cofiant Thomas Gee (Dinbych, 1913). [Un o'r cofiannau mwyaf trwyadl a welwyd yn y Gymraeg, ar fywyd a chyfnod y cyhoeddwr Thomas Gee.]
- (Casg.) Llen Cymru (Caernarfon, 1921).
- (Casg.) Llen Cymru: Rhan 2 (Caernarfon, 1922).
- (Casg.) Llen Cymru: Rhan 3 (Aberystwyth, 1926).
- (Casg.) Llen Cymru: Rhan 4 (Aberystwyth, 1927).
- Homerus, (cyf.) R. Morris Lewis gydag ychwanegiadau, rhagair ac anodiadau T. Gwynn Jones, Iliad Homer, (Wrecsam, 1928).
- Daniel Owen, 1836–1895 (Caerdydd, 1936).
- Daniel Owen, (gol.) T. Gwynn Jones, Profedigaeth Enoc Huws (Wrecsam, 1939).
- Y Cerddor (Aberystwyth, 1913).
- Am ragor, gweler A Bibliography of Thomas Gwynn Jones (Casg.) Owen Williams (Wrecsam, 1938)
- (cyf.), Blodau o Hen Ardd (1927). [ Epigramau Groeg mewn cyfieithiad]
- Dychweledigion (1920). [Cyfieithiad o ddrama Henrik Ibsen]
- Eglwys y Dyn Tlawd (1892)
- Lona (1923). [Nofel]
- (cyf.) Macbeth gan William Shakespeare (1942) [Cyfieithiad mydryddol grymus o ddrama enwog Shakespeare]
- (cyf.), Visions of the Sleeping Bard (1940). [Cyfieithiad o Gweledigaethau'r Bardd Cwsg gan Ellis Wynne]
Beirniadaeth ac astudiaethau[golygu | golygu cod]
- Owen Williams (casg.) , A Bibliography of Thomas Gwynn Jones (Wrecsam, 1938)
- "Rhifyn Coffa Thomas Gwynn Jones", Y Llenor cyf. 28 (Haf 1949)
- W. Beynon Davies, Thomas Gwynn Jones (Caerdydd, 1970)
- D. Ben Rees, Pumtheg o Wŷr Llên yr Ugeinfed Ganrif (Pontypridd, 1972)
- Derec Llwyd Morgan, Barddoniaeth Thomas Gwynn Jones: Astudiaeth (Llandysul, 1972)
- David Jenkins, Thomas Gwynn Jones - Cofiant (Gwasg Gee, 1973)
- D. Hywel E. Roberts, Llyfryddiaeth T. Gwynn Jones (Caerdydd, 1981)
- Gwynn ap Gwilym (gol.), Thomas Gwynn Jones (Llandybïe, 1982)
- David Jenkins (gol.), Bro a Bywyd: T. Gwynn Jones 1871-1949 (Caerdydd, 1984)
- Alan Llwyd, Byd Gwynn: Cofiant T. Gwynn Jones, 1871-1949 (Aberystwyth, 2019)

- Egin llenorion Cymreig
- T. Gwynn Jones
- Academyddion Cymreig
- Beirdd Cymraeg
- Betws-yn-Rhos
- Genedigaethau 1871
- Heddychwyr Cymreig
- Llenorion Cymraeg
- Llenorion Cymreig y 19eg ganrif
- Llenorion Cymreig yr 20fed ganrif
- Llenorion plant Cymraeg
- Marwolaethau 1949
- Nofelwyr Cymraeg
- Newyddiadurwyr Cymreig
- Pobl o Gonwy
- Prifeirdd
- Ysgolheigion Cymraeg