Ymadawiad Arthur (cerdd)
| Enghraifft o: | gwaith llenyddol |
|---|---|
| Awdur | Thomas Gwynn Jones |
| Iaith | Cymraeg |
| Dyddiad cyhoeddi | 1902 |
| Statws hawlfraint | parth cyhoeddus |
| Dynodwyr | |


Awdl Gymraeg gan y bardd T. Gwynn Jones yw Ymadawiad Arthur. Testun y gerdd yw'r chwedl am glwyfo'r Brenin Arthur ym mrwydr Camlan a'i "ymadawiad" dirgel i Ynys Afallon.
Enillodd yr awdl y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bangor 1902. Ystyrir Ymadawiad Arthur yn gerdd nodedig yn hanes llenyddiaeth Gymraeg yr 20g. Roedd yn cael ei nodi fel cerdd oedd yn defnyddio'r gynghanedd i "ganu" yn hytrach nag i ddangos medrusrwydd yn y gynghanedd. Roedd yn cael ei hystyried fel cychwyn oes aur newydd ym marddoniaeth Cymraeg.[1] Ond nid oedd pawb yn cytuno. Meddai Gwili:
Y peth mwyaf a enillwyd yn Eisteddfod Bangor, yn 1902, oedd cywirdeb iaith a phurdeb arddull y cywyddwyr gynt, nid barddoniaeth wreiddiol iawn, neu arbennig ei gweledigaeth. Yn wir, yr oedd gan rai beirdd o ysgol Islwyn, er eu harddull ddiffygiol a'u Cymraeg gresynus, fwy o afael ar bethau pwysicaf cerdd nag oedd gan yr ysgol newydd.
Y bai amlycaf ar lawer o'r farddoniaeth a ddilynodd Ymadawiad Arthur oedd iddi aberthu nerth a diffuantrwydd i geinder a mursendod—colli golwg ar fywyd yn ei ystyr ddyfnaf a'i agweddau difrifol, a'i guddio mewn ffansi ddisylwedd a gwead o hen eiriau'r geiriadur.[2]
Cafodd y gerdd ei gyhoeddi a'i ail gyhoeddi sawl gwaith. Yn wreiddiol yng Nghyfansoddiadau Eisteddfod Genedlaethol 1902, wedyn yn Ymadawiad Arthur a Chaniadau Eraill, 1910[3] yn rhan o lyfr cywrain cyfyngedig ei gyhoeddiad gan Wasg Gregynog ym 1926 ac yn ei ffurf derfynol yn Caniadau T. Gwynn Jones (1934). Ceir trafodaeth am y gwahanol fersiynau o'r gerdd mewn erthygl gan Syr Thomas Parry yn Y Llenor, cyf. 28 (1949).[4]
Y dyfyniad amlycaf o'r gerdd yw:
Draw dros y don mae bro dirion nad ery
Cwyn yn ei thir, ac yno ni thery
Na haint na henaint fyth mo'r rhai hynny
A ddêl i'w phur, rydd awel, a phery
Pob calon yn hon yn heiny a llon,
Ynys Afallon ei hun sy felly.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Ymadawiad Arthur a cherddi eraill (Caernarfon: Cwmni y Cyhoeddwyr Cymreig, 1910)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ M. Wynn Thomas (1999). Corresponding cultures: the two literatures of Wales. Caerdydd: University of Wales Press.
- ↑ John Jenkins (Gwili), Caniadau Gwili (Wrecsam: Hughes a'i Fab, 1934)
- ↑ Ymadawiad Arthur a Chaniadau Eraill ar Wicidestun
- ↑ Thomas Parry (1949). "Ymadawiad Arthur". Y Llenor 28: 127-134. https://cylchgronau.llyfrgell.cymru/view/1319198/1325686/132#?xywh=-1864%2C-292%2C6694%2C3927.