Neidio i'r cynnwys

Beriah Gwynfe Evans

Oddi ar Wicipedia
Beriah Gwynfe Evans
Ganwyd12 Chwefror 1848 Edit this on Wikidata
Nant-y-glo Edit this on Wikidata
Bu farw4 Tachwedd 1927 Edit this on Wikidata
Caernarfon Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethnewyddiadurwr, athro, gwleidydd, dramodydd Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddolplaid Ryddfrydol Edit this on Wikidata
TadEvan Evans Edit this on Wikidata

Llenor yn y Gymraeg a'r Saesneg, dramodydd, newyddiadurwr a gwleidydd Cymreig oedd Beriah Gwynfe Evans (12 Chwefror 18484 Tachwedd 1927).[1]

Bywgraffiad

[golygu | golygu cod]

Cafodd ei eni yn Nant-y-glo, Sir Fynwy (Blaenau Gwent bellach), yn fab i'r Parch. Evan Evans o Nant-y-glo a Mary Valentine.[2] Yn bedwar ar bymtheg oed, ymfudodd ei rieni i'r Unol Daleithiau, ond symudodd Beriah i fyw i bentref Gwynfe, Sir Gaerfyrddin, gan fabwysiadu Gwynfe fel ei enw canol. Gweithiodd fel ysgolfeistr brifathro yng Ngwynfe ac yna yn Llangadog, Sir Gaerfyrddin; tra'r oedd yn athro mae'n hysbys iddo ddefnyddio y Welsh Not er mwyn annog ei ddisgyblion i ddysgu Saesneg, er iddo edifarhau hyn yn daer yn ddiweddarach.[3]

Ymddenygs iddo ysgrifennu ei stori gyntaf yn bymtheg oed ac iddo ysgrifennu nifer o ddramâu i'w ddisgyblion eu perfformio yn yr ysgol.[4] Fodd bynnag, daeth i amlygrwydd cenedlaethol yn 1878 pan enillodd wobr am ei nofel Saesneg Bronwen mewn Eisteddfod leol; y flwyddyn ganlynol enillodd wobr arall am ddrama ar yr un pwnc sef Owain Glyndŵr.[4] Roedd ei fryd ar ddod yn newyddiadurwr a thra'r oedd yng Ngwynfe cychwynnodd y cylchgrawn Cymraeg poblogaidd Cyfaill yr Aelwyd, yn 1880,[2] lle ymddangosodd nifer fawr o nofelau o'i eiddo drwy gydol yr 1880au, ynghyd a chyfraniadau gan eraill megis ei dad, ei frawd Alltud Gwent, Anthropos, ac eraill. Ymddangosodd rhagor o nofelau yn Gymraeg a Saesneg o eiddo Beriah hefyd mewn cyfnodolion eraill megis y Cardiff Times.

Yn 1887 cefnodd ar yr ystafell ddosbarth i ymuno â staff y South Wales Daily News yng Nghaerdydd; bu'n golygu adran Gymraeg y Cardiff Times and South Wales Weekly News. Daliodd i olygu Cyfaill yr Aelwyd nes rhoi'r gorau iddo yn 1890; parhaodd y cylchgrawn am ychydig flynyddoedd eto heb gyfraniad , gan uno gyda'r Frythones yn 1891. Yn 1892 aeth Beriah i Gaernarfon fel rheolwr a phrif olygydd cwmni'r Genedl Gymreig a'i wahanol bapurau - cwmni gwladgarol roedd David Lloyd George yn ymddiddori ynddo.

Peidiodd ei weithgarwch fel nofelydd i raddau helaeth wedi iddo roi'r gorau i'r Cyfaill, fodd bynnag, fel cyfres di-enw yn y Genedl yn 1893-4 ymddangosodd ei nofel olaf ac enwocaf, y dychan gwleidyddol Dafydd Dafis. Profodd y nofel yn boblogaidd iawn a bu cryn dyfalu ynghylch pwy oedd yr awdur, gyda llawer yn awgrymu mai'n rhaid mai un o'r Aelodau Seneddol Cymreig ydoedd - hyd yn oed Lloyd George ei hun - nes cyhoeddi'r nofel fel cyfrol yn 1898 dan enw Beriah. Nid ymwelodd Beriah erioed â Llundain.

Gadawodd gwmni'r Genedl yn 1895 a bu'n ohebydd i'r Liverpool Mercury a sawl papur arall, gan barhau i fyw yng Nghaernarfon. Nid oedd Beriah yn fardd, fodd bynnag, cafodd ei gadeirio ym mhrif seremoni yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mangor yn 1902 ar ran T. Gwynn Jones, oedd yn absennol mewn priodas cyfaill.

O ran ei gynnyrch llenyddol ei hun, canolbwyntiodd ar ddramau yn ystod blynyddoedd cyntaf yr 20g, gan gyhoeddi Caradog ac Ystori’r Streic yn 1904. Yn 1911 fe'i gwahoddwyd i gyfansoddi pasiant hanesyddol ar gyfer Arwisgiad Tywysog Cymru; y canlyniad oedd Glyndŵr: Tywysog Cymru, addasiad o'i ddrama gynharach am Owain Glyndŵr.

Yn 1917 penodwyd ef yn olygydd Y Tyst, cylchgrawn wythnosol yr Annibynwyr. Wedi marw'r bardd Eifionydd yn 1922 dewiswyd Beriah yn olynydd iddo fel Cofiadur yr Orsedd.[2]

Ymddiddorai'n fawr mewn gwleidyddiaeth gan gymryd safbwynt cenedlaetholgar rhamantaidd, fel nifer o'i gyfoeswyr. Beriah oedd ysgrifennydd cyntaf y mudiad gwladgarol Cymru Fydd ac yn ddiweddarach, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg (1885).[2]

Gwaddol

[golygu | golygu cod]

Yn ystod ei fywyd roedd Beriah Gwynfe Evans yn ffigwr amlwg ym mywyd cyhoeddus Cymru. Ni pharhaodd ei waith yn adnabyddus nac yn boblogaidd wedi ei farwolaeth, fodd bynnag cydnabyddir ei fod yn un o arloeswyr y ddrama Gymraeg.[2]

Llyfryddiaeth Ddethol

[golygu | golygu cod]

Roedd Beriah Gwynfe Evans yn awdur toreithiog ac mae'n debyg iawn nad yw'r llyfryddiaeth isod yn gyflawn. Ni fyddai ei enw o reidrwydd wedi ymddangos ar lawer iawn o'i gynnyrch newyddiadurol. Ysgrifennodd rhagor o nofelau a ddramau na chawsant eu cyhoeddi.

Dramau a Gweithiau Llwyfan

[golygu | golygu cod]
  • Gwrthryfel Owain Glyndŵr (Llanberis, 1880; buddugol yn Eisteddfod Llanberis 1879).
  • Chwarae-gân (Llanberis, 1879).
  • Llewelyn ein Llyw Olaf, 'Drama-gantata' gyda cherddoriaeth gan Alaw Ddu (h.y. William Thomas Rees) (Llanelli, 1883).
  • Caradog (Caernarfon, 1904).
  • Ystori’r Streic (Caernarfon, 1904).
  • Glyndŵr: Tywysog Cymru (Caernarfon, 1911; fersiwn dywygiedig o ddrama 1878 ar gyfer Arwisgiad Tywysog Cymru 1911).
  • Esther: Drama Ysgythrol (Caernarfon, 1914).

Nofelau

[golygu | golygu cod]

(Oni nodir fel arall mae'r dyddiadau'n dynodi dyddiad cyhoeddi'r nofel fel cyfres mewn papur newydd/cylchgrawn)

Yn Gymraeg

[golygu | golygu cod]
  • Bronwen (Tarian y Gweithiwr; 1880; cyfieithiad o'r Bronwen Saesneg isod. Cyhoeddwyd fel cyrfol 2025.)
  • Gwladys Ruffydd (Cyfaill yr Aelwyd; 1880-81)
  • Y Rhian Deg o Ystrad Tywi (Y Drych; 1881; cyfieithiad o'r Fair Maid Saesneg isod)
  • Owen Hughes (Cyfaill yr Aelwyd; 1882-83)
  • Beth Fydd y Diwedd? (Cronicl yr Ysgol Sabothol; 1882-83)
  • Idris Llwyd (Cyfaill yr Aelwyd; 1883-84)
  • Cenadwr Cyntefig (Cyfaill yr Aelwyd; 1884-85)
  • Morfudd Pugh (Cyfaill yr Aelwyd; 1885-86)
  • Priodas Ryfedd (Cyfaill yr Aelwyd; 1887)
  • Etiveddes y Caerau [sic] (Cyfaill yr Aelwyd; 1888-89; cyfieithiad o The Rivals isod)
  • O'r Dechrau i'r Diwedd (Cyfaill yr Aelwyd; 1890)
  • Ladi Wen y Llyn (Dechreuwyd yn Cyfaill yr Aelwyd yn 1891, dim ond y rhagymadrodd a gyhoeddwyd)
  • Dafydd Dafis (Y Genedl; 1893-94; Cyfrol 1898; dyma'r unig nofel o'i eiddo i ymddangos fel cyfrol yn ystod ei fywyd).

Yn Saesneg

[golygu | golygu cod]
  • Bronwen (South Wales Weekly Mail; 1879; buddugol mewn Eisteddfod yn 1878)
  • The Fair Maid of Ystrad Tywi (Cardiff Times; 1881; buddugol mewn Eisteddfod yn 1880)
  • The Rivals, or Roundhead and Cavalier (Cardiff Times; 1881)
  • The Heir of Glynavon (Cardiff Times; 1883-4)
  • Llewelyn: Last of the Welsh Princes (Cardiff Times; 1887. Cyhoeddwyd fel cyfrol 2025.)
  • The Widowed Prince (Cardiff Times; 1888)
  • The Bardic Gorsedd, its history and symbolism (Pont-y-pŵl, 1923).
  • ‘Cymro, Cymru a Chymraeg’ yn eu cysylltiad ag addysg (Lerpwl, 1889).
  • Y Cyngor Plwyf (Caernarfon, 1894).
  • Y Ddwy Fil (Aberafan, 1912).
  • Diwygwyr Cymru (Caernarfon, 1900).
  • The Life Romance of Lloyd George (Llundain, 1915). Cafwyd cyfieithiadau i'r Gymraeg (Rhamant Bywyd Lloyd George; Utica, 1916) a'r Ffrangeg. (La vie de roman de Lloyd George cyf R. Lebelle, Paris 1917)
  • 'Llawlyfr y Cymro ac arweinydd yr ymneillduwr i Ddeddf Addysg 1902 (Dinbych, 1903).
  • ‘The peasantry of South Wales’, Longman’s Magazine (Gorffennaf 1885).
  • Ymneillduaeth Cymru (mewn atebiad i Dr James, Manchester) (Treffynnon, 1901).

Amdano

[golygu | golygu cod]
  • E. G. Millward, ‘Beriah Gwynfe Evans : a pioneer playwright-producer’, yn (gol.) Hywel Teifi Edwards, A guide to Welsh literature: volume V, c. 1800–1900 (Caerdydd, 2000), tt. 166–185.
  • Rhiannon Ifans, ‘Beriah Gwynfe Evans’, Llên Cymru, cyfrol 25 (2002), tt. 74–93.
  • T. Shankland, Diwygwyr Cymru (S.I.: Seren Gomer, 1900–1904)
  • E. G. Millward, ‘O’r Llyfr i’r Llwyfan: Beriah Gwynfe Evans a’r Ddrama Gymraeg’, yn (gol.) J. E. Caerwyn Williams, Ysgrifau Beirniadol, XIV (Dinbych, 1988), tt. 199–220.
  • J. T. Jones, ‘Y Ddrama yng Nghymru’, Y Darian (8 Ebrill 1920), t. 8.
  • E. Wyn James, "'Nes na’r hanesydd...": Owain Glyndwr a Llenyddiaeth Gymraeg y Cyfnod Modern, Rhan 3: O William Shakespeare i Beriah Gwynfe Evans’, Taliesin, cyfrol 112 (Haf 2001), tt. 96–106.
  • E. Wyn James, ‘“Nes na’r hanesydd...”: Owain Glyndwr a Llenyddiaeth Gymraeg y Cyfnod Modern, Rhan 4: Beriah o’r Blaenau a Byd y Ddrama’, Taliesin, cyfrol 113 (Hydref 2001), tt. 93–100.
  • J. Kitchener Davies, ‘ Yr Eisteddfod a’r Ddrama’, Heddiw, V, rhif 4 (Awst, 1939), t. 170.
  • Ioan Williams, ‘Ymudiad Ddrama 1880–1911 – Beriah Evans a’r Ddrama Hanes’, Y Mudiad Drama yng Nghymru 1880–1940 (Llandybie, 2006), tt. 33–42.
  • D. R. Davies, ‘“Beriah” – Gwyliwr ar y Mur ein Drama’, Ford Gron, cyfrol 4, rhif 12 (Hydref, 1934), t. 280.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Hywel Teifi Edwards (26 June 2000). A Guide to Welsh Literature: c. 1800–1900. Gwasg Prifysgol Cymru. t. 183. ISBN 978-0-7083-1605-4.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 Beriah Gwynfe Evans 1848-1927; Y Bywgraffiadur, Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
  3. Geraint H. Jenkins, "A Gafodd Cymru Chwarae Teg? Cyfrifiad 1891 a'r Iaith Gymraeg", Welsh Book Studies 2, p.3
  4. 4.0 4.1 Hywel Teifi Edwards (26 June 2000). A Guide to Welsh Literature: c. 1800–1900. Gwasg Prifysgol Cymru. t. 167. ISBN 978-0-7083-1605-4.
  5. Gwŷr Enwog Gynt Cyfrol II; Beriah Gwynfe Evans, Humphreys, E. M.; Gwasg Aberystwyth 1953
Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o'r cofnod Beriah Gwynfe Evans ar yr Esboniadur, adnodd addysgiadol agored gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae gan y cofnod penodol hwnnw'r drwydded agored CC BY-SA 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith.