Melin Bapur
Logo Melin Bapur | |
| Enghraifft o: | cyhoeddwr llyfrau |
|---|---|
| Gwlad | |
| Dechrau/Sefydlu | 2024 |
| Gwladwriaeth | Cymru |
| Gwefan | https://melinbapur.cymru/ |
| Dynodwyr | |
Cyhoeddwr llyfrau Cymraeg a Chymreig yw Melin Bapur. Sefydlwyd ef yn 2024 gyda'r bwriad o gyhoeddi llenyddiaeth Gymraeg sydd wedi bod allan o brint am gyfnodau hir, a chyfieithiadau.[1]
Llyfrau Melin Bapur
[golygu | golygu cod]Llyfrgell Gymraeg Melin Bapur
[golygu | golygu cod]Cyfres o 'glasuron' yr iaith Gymraeg ond yn cynnwys hefyd rhai gweithiau o'r gorffennol na chawsant eu cyhoeddi fel llyfrau ar y pryd.
Barddoniaeth
[golygu | golygu cod]Mae rhai o gyfrolau'r gyfres yn ddetholiadau newydd o waith bardd, eraill yn cyhoeddiadau newydd o gyfrolau oedd wedi bodoli o'r blaen, ac eraill yn gasgliadau cyflawn newydd o weithiau cyhoeddiedig bardd.
- Alun, Cathl i'r Eos a Cherddi Eraill
- R. J. Derfel, Cwyn y Gweithwyr a Cherddi Eraill
- Eben Fardd, Dinistr Jerusalem a Cherddi Eraill
- W. J. Gruffydd, Y Tlawd Hwn: Casgliad o Gerddi, casgliad cyflawn o farddoniaeth cyhoeddedig y bardd.
- Gwenffrwd, Syniadau ar y Môr: Casgliad o Gerddi, casgliad cyflawn o farddoniaeth cyhoeddedig y bardd.
- John Morris-Jones, Caniadau
- E. Prosser Rhys, Atgof a Cherddi Eraill, casgliad cyflawn o farddoniaeth cyhoeddedig y bardd.
- Talhaiarn, Tal ar Ben Bodran a Cherddi Eraill
Nofelau
[golygu | golygu cod]Ail-gyhoeddiadau o nofelau oedd wedi'u cyhoeddi eisoes yw'r rhain mewn rhai achosion, ond mewn achosion eraill maent yn gyhoeddiadau cyntaf ar ffurf cyfrol gweithiau a ymddangosodd cyn hynny mewn cylchgronau neu bapurau newydd yn unig.
- Beriah Gwynfe Evans, Bronwen: Chwedl Hanesyddol am Owain Glyndŵr (cyhoeddiad cyntaf erioed fel cyfrol)
- Isaac Foulkes, Rheinallt ap Gruffydd
- T. Rowland Hughes, O Law i Law
- T. Rowland Hughes, William Jones
- T. Rowland Hughes, Chwalfa
- T. Gwynn Jones, Camwri Cwm Eryr (cyhoeddiad cyntaf erioed fel cyfrol)
- T. Gwynn Jones, Enaid Lewys Meredydd: Stori am y Flwyddyn 2002 (cyhoeddiad cyntaf erioed fel cyfrol)
- T. Gwynn Jones, Gorchest Gwilym Bevan
- T. Gwynn Jones, Lona
- Mary Oliver Jones, Nest Merfyn (cyhoeddiad cyntaf erioed fel cyfrol)
- W. D. Owen, Madam Wen
- R. Silyn Roberts, Llio Plas y Nos
- Gwyneth Vaughan, Plant y Gorthrwm
- Gwyneth Vaughan, Cysgodau y Blynyddoedd Gynt (cyhoeddiad cyntaf erioed fel cyfrol)
- William Llewelyn Williams, Gwilym a Benni Bach
- William Llewelyn Williams, Gŵr y Dolau
Rhyddiaith (Straeon Byrion, Ysgrifau ac ati)
[golygu | golygu cod]- Daniel Owen, Straeon y Pentan
- Daniel Owen, Yr Ysmygwr: Rhyddiaith Fer a Barddoniaeth (yn cynnwys Y Siswrn a gweithiau eraill)
Clasuron Byd Melin Bapur
[golygu | golygu cod]- Georg Büchner, Woyzeck (cyfieithiad i'r Gymraeg gan Sarah Pogoda a Huw Jones)
- H. P. Lovecraft, Galwad Cthulhu a Straeon Arswyd Eraill (cyfieithiad i'r Gymraeg gan Peredur Glyn)
- Selma Merbaum, Cerddi 1939-1941 (cyfieithiad i'r Gymraeg gan Mary Burdett-Jones)
- Flann O'Brien, Y Trydydd Plismon (cyfieithiad i'r Gymraeg gan Anna Gruffydd)
- George Orwell, Foel yr Anifeiliaid (cyfieithiad o Animal Farm i'r Gymraeg gan Anna Gruffydd)
- George Orwell, Mil Naw Wyth Deg Pedwar (cyfieithiad i'r Gymraeg o Nineteen Eighty-Four gan Adam Pearce)
- Emile Souvestre, Bugail Geifr Lorraine (cyfieithiad i'r Gymraeg gan R. Silyn Roberts)
- H. G. Wells, Y Peiriant Amser (cyfieithiad i'r Gymraeg gan Adam Pearce)
Llyfrau Gwreiddiol
[golygu | golygu cod]Llyfrau a gyhoeddwyd gan Melin Bapur am y tro cyntaf.
- Mary Burdett-Jones, Llanllenorion, nofel.
- Ian Parri, Gwynfyd, nofel.
- D. Ben Rees, Cyd-ddyheu a'i Cododd Hi: Hanes y Blaid Lafur yng Nghymru, llyfr ffeithiol gwreiddiol.
Llyfrau Eraill
[golygu | golygu cod]- Eve Ensler, Shinani'n Siarad (cyfieithiad i'r Gymraeg gan Sharon Morgan o The Vagina Monologues)
- Beriah Gwynfe Evans, Llywelyn, nofel Saesneg.
- Jadwiga Graboś, Cyswllt (Barddoniaeth Bwyleg; cyfieithiad i'r Gymraeg gan Marta Listewnik)
- Helle Helle, Ceir ac Anifeiliaid (cyfieithiad i'r Gymraeg gan Richard Crowe o Biler og dyr, straeon byrion Daneg)
- T. Gwynn Jones, The Great Deed of Gwilym Bevan (cyfieithiad i'r Saesneg gan Adam Pearce o Gorchest Gwilym Bevan)
- J. R. R. Tolkien, Yr Hobyd (cyfieithiad i'r Gymraeg gan Adam Pearce o The Hobbit)
- Angharad Tomos, Inmitten Der Nacht (cyfieithiad i'r Almaeneg gan Marika Fusser o Wele'n Gwawrio)
Oriel
[golygu | golygu cod]-
Y Peiriant Amser gan H. G. Wells; cyhoeddiad cyntaf yn y Gymraeg.
-
Nest Merfyn gan Mary Oliver Jones. Cyhoeddiad cyntaf ar ffurf cyfrol.
-
Lona gan T. Gwynn Jones.
-
Camwri Cwm Eryr gan T. Gwynn Jones. Cyhoeddiad cyntaf ar ffurf cyfrol.
-
Madam Wen gan W. D. Owen.
-
Enaid Lewys Meredydd: Stori am y Flwyddyn 2002 gan T. Gwynn Jones. Cyhoeddiad cyntaf ar ffurf cyfrol.
-
Cysgodau y Blynyddoedd Gynt gan Gwyneth Vaughan. Cyhoeddiad cyntaf ar ffurf cyfrol.
-
Yr Hobyd gan J. R. R. Tolkien, cyhoeddiad cyntaf yn y Gymraeg.
-
Yr Ysmygwr: Rhyddiaith Fer a Barddoniaeth gan Daniel Owen; rhannau ohoni'n ymddangos am y tro cyntaf ar ffurf cyfrol
-
Y Tlawd Hwn: Casgliad o Gerddi gan W. J. Gruffydd; rhai cerddi heb eu cyhoeddi mewn cyfrol
-
Galwad Cthulhu a Straeon Arswyd Eraill gan H. P. Lovecraft; cyhoeddiad cyntaf yn y Gymraeg
-
Woyzeck gan Georg Büchner; cyhoeddiad cyntaf yn y Gymraeg
-
Bronwen gan Beriah Gwynfe Evans; cyhoeddiad cyntaf ar ffurf cyfrol.
-
Llywelyn gan Beriah Gwynfe Evans; cyhoeddiad cyntaf ar ffurf cyfrol.
-
Cyswllt gan Jadwiga Graboś; cyhoeddiad cyntaf yn y Gymraeg.