Neidio i'r cynnwys

R. Silyn Roberts

Oddi ar Wicipedia
R. Silyn Roberts
FfugenwSilyn Roberts Edit this on Wikidata
Ganwyd28 Mawrth 1871 Edit this on Wikidata
Llanllyfni Edit this on Wikidata
Bu farw13 Awst 1930 Edit this on Wikidata
Bangor Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
PriodMary Silyn Roberts Edit this on Wikidata
PerthnasauMathonwy Hughes Edit this on Wikidata
llofnod

Bardd, sosialydd, nofelydd, gweinidog a diwygiwr cymdeithasol o Gymru oedd Robert "Silyn" Roberts (28 Mawrth 187115 Awst 1930),[1] a aned ger Llanllyfni yn yr hen Sir Gaernarfon.[1] Daeth i'r amlwg yn gyntaf fel un o feirdd y 'dadeni' mewn llenyddiaeth Gymraeg ar droad yr 20g,[2] ond hwyrach mai fel addysgwr a gweinyddwr cyhoeddus y gwnaeth ei gyfraniad pwysicaf.[1][2]

Bywgraffiad

[golygu | golygu cod]

Ganwyd ef yn Nyffryn Nantlle 28 Mawrth 1871; mae ei gartref gwreiddiol, Brynllydiart yng Nghwm Silyn, bellach yn adfail.[3] Ei rieni oedd Robert John Roberts ac Ellen Williams, trydydd gwraig John; roedd gan Silyn chwaer bach, Elen (Nel), a ddaeth yn ddiweddarach yn fam i'r prifardd Mathonwy Hughes, a phedwar o hanner-brodyr a chwiorydd oedd yn blant i gwraig gyntaf John Roberts.[4] Roedd ei rieni, yn ôl ei dystiolaeth ef ei hun, yn ddylanwad bwysig arno yn dysgu iddo am hanes a llenyddiaeth Cymru, gyda'i fam yn cyflwyno gwaith Ceiriog a Talhaiarn iddo; ni ddysgodd dim am y pethau hyn nac am y Gymraeg o gwbl yn yr ysgol yr aeth iddo, Ysgol Ramadeg Clynnog.[5]

Gadawodd yr ysgol yn 14 oed am y chwarel, gyda'i fryd ar ddod yn beirianydd.[5] Parhaodd ei ddiddordebau llenyddol i ddatblygu yno dan ddylanwad ei gyd-chwarelwyr, a ddysgodd iddo am Goronwy Owen a Dafydd ap Gwilym; darllennodd yn helaeth yn Saensneg hefyd dan ddylanwad ei weinidog, gyda Walter Scott, Shakespeare, William Makepeace Thackeray, Charles Dickens ac Alexandre Dumas (mewn cyfieithiadau Saesneg) ymhlith ei ddeunydd darllen.[6]

Ar ôl cyfnod o weithio fel chwarelwr aeth Silyn i astudio am ei radd yng Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor ac yna i astudio ar gyfer y weinidogaeth yng Ngholeg Diwinyddol Y Bala.

Pan oedd e'n byw yn Llundain yn y 1900au daeth Silyn yn gyfaill i Lenin.[7]

Treuliodd y cyfnod 1905 - 1912 yn weinidog yn Nhan-y-grisiau, ger Blaenau Ffestiniog.

Credai'n gryf mewn sosialaeth a chefnogai'r Blaid Lafur Annibynnol. Sefydlodd gangen Gogledd Cymru o Gymdeithas Addysg y Gweithwyr yn 1925.

Bu'n weithgar hefyd gyda Cylch Dewi - cymdeithas yn ymgyrchu dros defnydd o'r Gymraeg ym myd addysg a chymdeithas a'r radio.

Gwaith llenyddol

[golygu | golygu cod]
Y goron a enillodd Silyn yn Eisteddfod Genedlaethol 1902

Gyda'i gyfaill W.J. Gruffydd, cymerodd ran flaenllaw yn y farddoniaeth delynegol newydd ar ddechrau'r 20g. Uchafbwynt eu cydweithrediad oedd cyhoeddi'r gyfrol Telynegion ar y cyd yn 1900. Enillodd Silyn y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bangor 1902 gyda phryddest ar y testun Trystan ac Esyllt.

Fel yn achos W.J. Gruffydd, nodweddir barddoniaeth Silyn gan ei delfrydiaeth a'i rhamantiaeth delynegol.

Bywyd personol

[golygu | golygu cod]

Priododd Mary Parry.[8] Roedd Mary yn ymgyrchydd dros addysg gweithwyr, fel ei gŵr.[9]

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Gwaith Silyn

[golygu | golygu cod]
  • (gyda W.J. Gruffydd), Telynegion (1900)
  • Trystan ac Esyllt a Chaniadau Eraill (1904)
  • Y Blaid Lafur Anibynnol: ei hanes a'i hamcan (1908)
  • Gwyntoedd Croesion (1924). Cyfieithiad.
  • Bugail Geifr Lorraine (1925). Cyfieithiad o'r nofel Ffrangeg gan Émile Souvestre.[10]
  • Cofarwydd (1930). Detholiad o'i gerddi a gyhoeddwyd wedi ei farwolaeth.
  • Llio Plas y Nos (1945). Nofel a gyhoeddwyd yn wreiddiol dan ffugenw mewn cylchgrawn yn 1906, ond a ail-gyhoeddwyd fel cyfrol wedi ei farwolaeth.[11]

Ffynonellau

[golygu | golygu cod]
  • Thomas, David (1956). Silyn: Robert Silyn Roberts, 1871-1930. Gwasg y Brython.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 1.2 "ROBERTS, ROBERT (SILYN) ('Rhosyr'; 1871 - 1930), bardd, pregethwr, diwygiwr cymdeithasol, ac athro". Y Bywgraffiadur Cymreig. Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
  2. 2.0 2.1 Thomas 1956 t1
  3. Thomas 1956 t2
  4. Thomas 1956 t3-4
  5. 5.0 5.1 Thomas 1956 tt.5-6
  6. Thomas 1956 tt.7-8
  7. Silyn (Robert Silyn Roberts) 1871-1930 gan David Thomas, Gwasg y Brython, 1956.
  8. https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/48308395
  9. "Mary Silyn, Syniad am Stori". Prifysgol Cymru. Cyrchwyd 21 Awst 2025.
  10. Roberts, R Silyn (1925). Bugail Geifr Lorraine . Wrecsam: Hughes a'i Fab.
  11. Roberts, Robert Silyn (1945). Llio Plas y Nos . Dinbych: Thomas Gee.