Cymdeithas Addysg y Gweithwyr
Corff a sefydlwyd i ddarparu mynediad i addysg i oedolion o unrhyw gefndir yw Cymdeithas Addysg y Gweithwyr neu CAG (Saesneg: Workers’ Educational Association neu WEA).
Dechreuodd y mudiad pan sefydlodd Albert Mansbridge An Association to promote the Higher Education of Working Men yn 1903. Newidiodd ei enw i Workers Educational Association yn 1905.
Ceir dau gorff ar wahan yng Nghymru, Cymdeithas Addysg y Gweithwyr (De Cymru) a Cymdeithas Addysg y Gweithwyr (Gogledd Cymru). Sefydlwyd cangen Gogledd Cymru yn 1925 gan Robert Roberts (Silyn). Ers 1992/3, mae'r rhain yn hollol ar wahan i'r corff Cymdeithas Addysg y Gweithwyr yn Lloegr a'r Alban. Mae corff ar wahan yng Ngogledd Iwerddon hefyd.
Ar 1 Awst 2001, ymunodd Cymdeithas Addysg y Gweithwyr (Gogledd Cymru) a Coleg Harlech i greu Cymdeithas Addysg y Gweithwyr Coleg Harlech.
Cysylltiadau allanol[golygu | golygu cod y dudalen]
- Cymdeithas Addysg y Gweithwyr (De Cymru) Archifwyd 2009-05-04 yn y Peiriant Wayback.
- Cymdeithas Addysg y Gweithwyr (Gogledd) Coleg Harlech Archifwyd 2010-02-18 yn y Peiriant Wayback.