R. Silyn Roberts
| R. Silyn Roberts | |
|---|---|
| Ffugenw | Silyn Roberts |
| Ganwyd | 28 Mawrth 1871 Llanllyfni |
| Bu farw | 13 Awst 1930 Bangor |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | bardd |
| Priod | Mary Silyn Roberts |
| Perthnasau | Mathonwy Hughes |
| llofnod | |
Bardd, sosialydd, nofelydd, gweinidog a diwygiwr cymdeithasol o Gymru oedd Robert "Silyn" Roberts (28 Mawrth 1871 – 15 Awst 1930),[1] a aned ger Llanllyfni yn yr hen Sir Gaernarfon.[1] Daeth i'r amlwg yn gyntaf fel bardd[2] ac mae'n debyg mai drwy ei weithiau llenyddol fe'i adnabyddir orau heddiw; fodd bynnag yn ystod ei oes ei hun gwnaeth gyfraniad sylweddol fel addysgwr a gweinyddwr cyhoeddus.[1][2]
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Ganwyd ef yn Nyffryn Nantlle 28 Mawrth 1871; mae ei gartref gwreiddiol, Brynllydiart yng Nghwm Silyn, bellach yn adfail.[3] Ei rieni oedd Robert John Roberts ac Ellen Williams, trydydd gwraig John; roedd gan Silyn chwaer bach, Elen (Nel), a ddaeth yn ddiweddarach yn fam i'r prifardd Mathonwy Hughes, a phedwar o hanner-brodyr a chwiorydd oedd yn blant i gwraig gyntaf John Roberts.[4] Roedd ei rieni, yn ôl ei dystiolaeth ef ei hun, yn ddylanwad bwysig arno am iddynt ddysgu iddo am hanes a llenyddiaeth Cymru, pethau na ddysgodd dim o gwbl amdanynt (nac am y Gymraeg o gwbl) yn ei ysgol, Ysgol Ramadeg Clynnog.[5] Cofiai i'w fam gyflwyno gwaith Ceiriog a Talhaiarn iddo.
Gadawodd yr ysgol yn 14 oed am y chwarel, gyda'i fryd ar ddod yn beirianydd.[5] Parhaodd ei ddiddordebau llenyddol i ddatblygu yno dan ddylanwad ei gyd-chwarelwyr, a ddysgodd iddo am Goronwy Owen a Dafydd ap Gwilym; darllennodd yn helaeth yn Saensneg hefyd dan ddylanwad ei weinidog, gyda Walter Scott, Shakespeare, William Makepeace Thackeray, Charles Dickens ac Alexandre Dumas (mewn cyfieithiadau Saesneg) ymhlith ei ddeunydd darllen.[6]
Ar ôl cyfnod o weithio fel chwarelwr aeth Silyn i astudio am ei radd yng Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor (lle astudiodd llenyddiaeth Gymraeg gyda John Morris-Jones) ac oddi yno i astudio ar gyfer y weinidogaeth yng Ngholeg Diwinyddol Y Bala.
Treuliodd y cyfnod 1905 - 1912 yn weinidog yn Nhan-y-grisiau, ger Blaenau Ffestiniog.
Credai'n gryf mewn sosialaeth a chefnogai'r Blaid Lafur Annibynnol. Sefydlodd gangen Gogledd Cymru o Gymdeithas Addysg y Gweithwyr yn 1925.
Bu'n weithgar hefyd gyda Cylch Dewi - cymdeithas yn ymgyrchu dros defnydd o'r Gymraeg ym myd addysg a chymdeithas a'r radio.
Gwaddol
[golygu | golygu cod]Fel Llenor
[golygu | golygu cod]
Roedd Silyn yn fardd blaenllaw yn y Mudiad Rhamantaidd mewn barddoniaeth Gymraeg a ddaeth i'r fei ar droad yr 20g. Mae cyhoeddi ei gyfrol ar y cyd gyda W. J. Gruffydd, Telynegion (1900), wed'i disgrifio fel arwydd bod cyfnod newydd mewn barddoniaeth Gymraeg wedi cyrraedd,[7] a chymharodd un beirniad cyhoeddi'r gyfrol gyda chyhoeddiad y gyfrol Saesneg Lyrical Ballads gan William Wordsworth a Samuel Taylor Coleridge, a gyhoeddwyd yn 1798, gyda'r ddwy gyfrol yn cynrychioli dechrau mudiad rhamantaidd barddonol newydd yn y naill iaith neu'r llall.[8] Am gyfnod byr ar ddechrau'r 20g gellid rhifo Silyn ymhlith beirdd mwyaf Cymraeg dadleuol a dylanwadol ei ddydd: er y tueddir i ganolbwyntio ar wobrwyo awdl T. Gwynn Jones ar Ymadawiad Arthur yn ystod Eisteddfod Genedlaethol 1902, roedd buddugoliaeth Silyn yng nghystadleuaeth y Goron yr un flwyddyn ar y testun Trystan ac Esyllt hefyd yn dangos bod yr oes newydd wedi gwawrio.[9] John Morris-Jones oedd wedi gosod testun y ddwy gystadleuaeth. Ar y pryd, gellid fod wedi dadlau bod Silyn yn ail i Gwynn yn unig fel cynrychiolydd yr ysgol newydd: Silyn oedd yr aeddfetach o awduron Telynegion ac ei gerdd yntau a drechodd ymdrech Gruffydd yng nghystadleuaeth y Goron. Fodd bynnag, wrth i'r ganrif barhau tyfodd enwogrwydd Gruffydd ar draul un Silyn, a daeth nifer o feirdd newydd o fewn y mudiad i'r amlwg a fyddai'n profi'n fwy llwyddiannus a dylanwadol na Silyn yn y pen draw, megis J. J. Williams, R. Williams Parry a T. H. Parry-Williams. Er i Silyn barhau i ysgrifennu a chyhoeddi barddoniaeth yn achlysurol am weddill ei fywyd, bu canfyddiad bod Silyn wedi rhoi'r gorau i farddoni wedi cyhoeddi Trystan ac Estyllt er mwyn canolbwyntio ar ei waith mewn meysydd eraill.[10] Roedd gwaith Silyn yn nodweddiadol o farddoniaeth cynnar yr Ysgol Ramantaidd hon, ac wedi'i nodwedud gan ddelfrydiaeth a rhamantiaeth delynegol; ond er i feirdd fel Gruffydd, Gwynn a Pary-Williams ddatblygu eu harddulliau ymhellach yn y cyfnod ar ôl 1910, parhaodd Silyn yn ramantydd hyd y diwedd.
Bywyd Personol
[golygu | golygu cod]Priododd Mary Parry,[11] oedd hefyd yn ymgyrchydd dros addysg gweithwyr, fel ei gŵr.[12]
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]| Mae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |
Gweithiau Llenyddol
[golygu | golygu cod]Barddoniaeth
[golygu | golygu cod]- (gyda W.J. Gruffydd), Telynegion (1900)
- Trystan ac Esyllt a Chaniadau Eraill (1904)
- Cofarwydd (1930). Detholiad fach o'i gerddi a gyhoeddwyd wedi ei farwolaeth.
Nofelau
[golygu | golygu cod]Lluniodd Silyn ei nofelau tra'r oedd yn golygu Y Glorian a'u cyhoeddi yno rhwng 1905 a 1909. Cyhoeddwyd dwy ohonynt yn ddiweddarach ar ffurf cyfrolau.
- Llio Plas y Nos (1905 / 1945[13])
- Bugail Geifr Lorraine (1907 / 1927). Cyfieithiad o'r nofel Ffrangeg gan Émile Souvestre.[14] Dyma oedd yr unig nofel o'i eiddo ymddangosodd fel cyfrol yn ystod ei fywyd ei hun; gwnaeth nifer o newidiadau ar gyfer testun 1927.
- Y Ddeilen Aur (1908) (yn Y Glorian yn unig)
Drama
[golygu | golygu cod]- Gwyntoedd Croesion (1924). Cyfieithiad o Cross Currents J. O. Francis.
Ysgrifennu Gwleidyddol
[golygu | golygu cod]- Y Blaid Lafur Anibynnol: ei hanes a'i hamcan (1908)
Arall
[golygu | golygu cod]Digwyddodd ddau gyd-ddigwyddiad diddorol ond hanfodol yn ystod bywyd Silyn sy'n ei gysylltu mewn ffordd bychan â rhai o ddigwyddiadau haneysddol mawr yr 20g. Digwyddodd y cyntaf yn ystod y 1900au pan ofynnodd gyfnewidiodd ychydig eiriau â gwr a arferai mynychu Ystafell Ddarllen yr Amgueddfa Brydeinig siaradai Saesneg ag acen gref; er na ddysgodd enw'r gŵr, haerai Silyn yn ddiweddarach yn seiliedig ar ei ymddangosiad bod yn rhaid mai Vladimir Lenin ydoedd. Disgrifir y digwyddiad yng nghofiant David Thomas i Silyn.[15] Roedd Lenin yn Llundain ar y pryd a mae'n hysbys iddo fynychu'r Ystafell Ddarllen yn reolaidd, felly byddai cyfarfod rhyngddynt yn berffaith bosib; fodd bynnag unwaith yn unig ddigwyddodd hyn ac nid oes prawf pendant mai Lenin oedd y gŵr cyfarfu Silyn ag ef. Ni thrafodwyd dim byd o sylwedd ganddynt ac ymddengys mai gorddweud llwyr yw honiadau diweddarach mewn rhai ffynhonellau diweddarach[16][17] mai cyfeillion oeddynt.
Digwyddodd yr ail gyd-ddigwyddiad tra'r oedd yn dychwelyd o'i daith i'r Unol Daleithiau yn 1912; hwyliodd y llong roedd Silyn arni drwy ran ogleddol o Gefnfor yr Iwerydd ychydig oriau'n unig cyn i'r RMS Titanic daro mynydd iâ yn yr un man tra'n hwylio i'r cyfeiriad arall. Nododd Silyn na welasai iâ y prynhawn hwnnw, er ei bod hi'n oer iawn.[18]
Bywyd Silyn, ac yn benodol ei berthynas gyda Mary a'u gwaith gyda Chymdeithas Addysg y Gweithwyr, yw testun y nofel Arlwy'r Sêr gan Angharad Tomos a gyhoeddwyd yn 2023.
Ffynonellau
[golygu | golygu cod]- Thomas, David (1956). Silyn: Robert Silyn Roberts, 1871-1930. Gwasg y Brython.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- 1 2 3 "ROBERTS, ROBERT (SILYN) ('Rhosyr'; 1871 - 1930), bardd, pregethwr, diwygiwr cymdeithasol, ac athro". Y Bywgraffiadur Cymreig. Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
- 1 2 Thomas 1956 t1
- ↑ Thomas 1956 t2
- ↑ Thomas 1956 t3-4
- 1 2 Thomas 1956 tt.5-6
- ↑ Thomas 1956 tt.7-8
- ↑ Llwyd, Alan (2017) Byd Gwynn: Cofiant T. Gwynn Jones, Cyhoeddiadau Barddas t. 140.
- ↑ T. H. D. (1930) 'Silyn', Welsh Outlook, 17-11, t.291
- ↑ Canrif o Brifwyl: 1902, BBC Cymru, Adalwyd 27 Ebrill 2026.
- ↑ Thomas 1956 tt.112
- ↑ https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/48308395
- ↑ "Mary Silyn, Syniad am Stori". Prifysgol Cymru. Cyrchwyd 21 Awst 2025.
- ↑ Roberts, Robert Silyn (1945). . Dinbych: Thomas Gee.
- ↑ Roberts, R Silyn (1925). . Wrecsam: Hughes a'i Fab.
- ↑ Thomas 1956 tt.146
- ↑ Cofio'r 'dynamo o ddynes', Mary Silyn, BBC Cymru. Adalwyd 27 Ebrill 2026.
- ↑ From Llanllyfin to Lewisham and a meeting with Lenin, the life of Silyn Roberts, a Welsh quarryman turned poet and presbyterian minister Ladywell Live. Adalwyd 27 Ebrill 2026
- ↑ Thomas 1956 tt.101
