Neidio i'r cynnwys

Pryddest

Oddi ar Wicipedia

Term llenyddol a arferir yn y Gymraeg i ddisgrifio math o gerdd hir ar y mesurau rhydd yw pryddest. Er bod yr enghraifft gynharaf o'r gair i'w chael yng ngwaith Beirdd y Tywysogion (gyda'r ystyr 'cerdd, cân', bôn y ferf prydaf[1]), mae'n ffurf farddonol a gysylltir â'r Eisteddfod yn bennaf ac yn enwedig â chystadleuaeth Coron yr Eisteddfod Genedlaethol.

Furf y Bryddest

[golygu | golygu cod]

Does dim rheolau pendant ynglŷn a'i hyd na'i ffurf. Does dim rhaid defnyddio cynghanedd, ond ceir pryddestau sy'n cynnwys cynghanedd er hynny. Mae'r rheolau llac hyn yn golygu fod gan fardd sy'n llunio pryddest lawer mwy o ryddid na'i gymheiriad ar y mesurau caeth sy'n cystadlu am y Gadair.

Mae'r bryddest yn cyfateb i raddau i'r awdl ar y mesurau caeth, yn yr ystyr bod y naill wedi'i wobrwyo'n draddodiadol ar gyfer y Gadair a'r llall ar gyfer y Goron, a hefyd yn yr ystyr y gellir llunio pryddest ar ddau neu ragor o'r mesurau rhydd yn yr un ffordd y gall awdl gyfuno mesurau caeth. Fodd bynnag, tueddir hefyd i alw "pryddest" ar unrhyw gerdd gymharol hir ar fesur rhydd, hyd yn oed os nad yw'n cyfuno mesurau gwahanol yn yr un ffordd (er enghraifft Atgof, sy'n gyfres o sonedau); nid yw hyn yn wir am awdl (cywydd fyddai unrhyw gerdd yn defnyddio'r mesur hwnnw'n unig er enghraifft, waeth beth oedd ei hyd).

Nid oes dim byd ynghylch nodweddion y bryddest fyddai'n amhosib neu'n anodd ei lunio mewn iaith heblaw'r Gymraeg, ac yn wir mae nifer fawr iawn o gerddi mewn ieithoedd eraill fyddai'n bodloni holl anghenion pryddest; fodd bynnag nid yw'n arferol defnyddio'r gair wrth ddisgrifio cerddi hir nad ydynt yn y Gymraeg.

Y Bryddest a'r Arwrgerdd

[golygu | golygu cod]
Prif: Arwrgerdd

Mae'r Bryddest yn gysylltiedig â'r Arwrgerdd, sef cerdd naratif hir ar destun arwrol; ffafriwyd y bryddest gan fwyrafri y beirdd Cymraeg yn ystod y 19g a ymdrechodd i gynhrychu arwrgerdd Cymraeg (er enghraifft Yr Atgyfodiad Eben Fardd ac Emmanuel Gwilym Hiraethog. Fodd bynnag nid oes rhaid i bryddest fod yn arwrgerdd, nac arwrgerdd yn bryddest, er enghraifft Cywydd y Drindod Dafydd Ionawr, sy'n arwrgerdd ond yn gywydd.

Pryddestau Nodedig

[golygu | golygu cod]

Pryddestau yw mwyafrif y cerddi enillodd y Goron. Isod ceir rhestr Cymraeg o bryddestau enwog yn yr Iaith Gymraeg gydag erthygl benodol ar Wicipedia:

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Geiriadur Prifysgol Cymru, cyfrol III, tud. 2919.
Eginyn erthygl sydd uchod am lenyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.