William John Gruffydd

Oddi ar Wicipedia
William John Gruffydd
Ganwyd14 Chwefror 1881 Edit this on Wikidata
Bethel Edit this on Wikidata
Bu farw29 Medi 1954 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethysgrifennwr, bardd, gwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 38ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 37ain Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Plaid WleidyddolPlaid Ryddfrydol Edit this on Wikidata

Ysgolhaig, bardd a golygydd Cymreig oedd William John Gruffydd neu W. J. Gruffydd (14 Chwefror 188129 Medi 1954). Bu'n Aelod Seneddol dros sedd Prifysgol Cymru o 1943 i 1950.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ganed ef yng Nghorffwysfa, Bethel (Gwynedd), yn fab i John a Jane Elisabeth Griffith. Roedd yn un o ddisgyblion cynharaf Ysgol Sir Caernarfon, yna bu'n fyfyriwr Coleg yr Iesu, Rhydychen, lle cymerodd radd mewn llenyddiaeth Saesneg. Bu'n athro yn ysgol ramadeg Biwmares o 1904 hyd 1906, pan benodwyd ef yn ddarlithydd yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd. Penodwyd ef yn Athro yno pan ddychwelodd o'r llynges yn 1918, a bu yn y swydd nes iddo ymddeol yn 1946.

Fel ysgolhaig, gwnaeth lawer o waith ar Bedair Cainc y Mabinogi. Cyhoeddodd Math vab Mathonwy ar y bedwaredd gainc yn 1928, a Rhiannon yn 1953. Cyhoeddodd nifer o lyfrau ar hanes llenyddiaeth Gymraeg.

Daeth yn fwyaf amlwg fel bardd, gan ennill coron Eisteddfod Genedlaethol Llundain yn 1909 am Yr Arglwydd Rhys. Cyhoeddodd Ynys yr hud a chaneuon eraill yn 1923. Bu'n olygydd Y Llenor o'i gychwyniad yn 1922, a chyhoeddodd nifer fawr o ysgrifau ynddo.

Bu'n aelod blaenllaw o Blaid Cymru am flynyddoedd lawer, ond yn 1943 safodd fel ymgeisydd Seneddol am sedd Prifysgol Cymru fel Rhyddfrydwr, yn erbyn Saunders Lewis oedd yn sefyll dros y Blaid. Gruffudd a etholwyd, a daliodd y sedd hyd 1950.

Enghraifft o gerdd[golygu | golygu cod]

Mae ei gerdd 1914-1918 yr Ieuainc wrth yr Hen yn gignoeth ac mae W. J. yn gweld bai ar y genhedlaeth hŷn am y Rhyfel Mawr. Milwr ifanc sy'n canu:

Nyni oedd biau'r gwanwyn gwyrdd,
Ac eiddom ni bob glendid greddf
Ni oedd gariadon hyd y ffyrdd
Yn nistaw hwyr yr hydref lleddf,
Pob breuddwyd teg a phurdeb bryd,
Pob gobaith, pob haelioni hir,
Pob rhyw ddyheu am lanach byd,
Pob tyfiant cain, pob goleu clir.
Nyni yw'r rhai fendithiodd Duw
A'r dewrder mawr heb gyfri'r gost
Ni oedd yn canu am gael byw,
A byw a bywyd oedd ein bôst.
Ohonom nid oes un yn awr,-
Aeth bidog drwy y galon lân,
Mae'r ffosydd dros y dewrder mawr,
Mae'r bwled wedi tewi'r gân.
Pan gerddoch chwi, hen ddynion blin,
Hyd lwybrau'r wlad, ni'ch blinir fawr
Gan sibrwd isel, fin wrth fin,
Mae r cariad wedi peidio'n awr.
Mae melltith ar ein gwefus ni
Yn chwerw, ond eto cyfyd gwên,
Wrth gofio nad awn byth fel chwi,
Wrth gofio nad awn byth yn hen.

Gweithiau[golygu | golygu cod]

  • W. J. Gruffydd, Dros y Dŵr (1928) [Drama]
  • Sophocles, troswyd i’r Gymraeg gan W. J. Gruffydd, Antigone (Caerdydd, 1988).
  • W. J. Gruffydd, Beddau’r Proffwydi (Caerdydd, 1913). [Drama]
  • W. J. Gruffydd, ‘Diorseddiad Rheswm’, Tir Newydd, rhif 14 (Tachwedd 1938), tt. 19–22.
  • A. Maude Royden, troswyd i’r Gymraeg gan W. J. Gruffydd, (Caerdydd, 1915).
  • W. J. Gruffydd, ‘Bledhericus, Bleddri, Bréri’, Revue Celtique, vol. 33, rhif 4 (Paris, 1912), tt. 180–183.
  • W. J. Gruffydd, Caneuon a Cherddi (Bangor, 1906). [Barddoniaeth]
  • W. J. Gruffydd, Caniadau (Y Drenewydd, 1932). [Barddoniaeth]
  • W. J. Gruffydd, Ceiriog (Llundain, 1939). [Beirniadaeth lenyddol]
  • W. J. Gruffydd, The connection between Welsh and Continental literature in the 14th and 15th centuries (Caerdydd, 1909).
  • Goronwy Owen, (gol.) W. J. Gruffydd, Cywyddau Goronwy Owen (Casnewydd, 1907). [Gyda rhagymadrodd gan W. J. Gruffydd]
  • W. J. Gruffydd, Dafydd ap Gwyilym (Caerdydd, 1935).
  • W. J. Gruffydd, (gol.) Bobi Jones, Detholiad o Gerddi W. J. Gruffydd (Caerdydd, 1992).
  • W. J. Gruffydd, ‘Donwy’, Bulletin of the Board of Celtic Studies, Vol. 7, Pt. 1 (Nov. 1933), tt. 1–4.
  • W. J. Gruffydd, Dyrchafiad arall i Gymro (Caerdydd, 1914). [Drama]
  • W. J. Gruffydd, Y flodeugerdd newydd (Caerdydd, 1909).
  • W. J. Gruffydd, Folklore and myth in the Mabinogion (Caerdydd, 1958).
  • W. J. Gruffydd, ‘Gair Personol’, Tir Newydd, rhif 12 (Mai 1938).
  • W. J. Gruffydd, Hen Atgofion (Aberystwyth, 1936). [Rhyddiaith]
  • W. J. Gruffydd, (gol.) Bobi Jones, Yr Hen Ganrif: Beirniadaeth lenyddol W. J. Gruffydd (Caerdydd, 1991).
  • W. J. Gruffydd, ‘Iolo Goch’s “I Owain Glyndwr ar ddifancoll”’, Y Cymmrodor, vol. XXI (Llundain, 1908), tt. 105–112
  • W. J. Gruffydd, C, (, 19). New Welsh Review 6/4 (1994), p. 39–42
  • W. J. Gruffydd, Llenyddiaeth Cymru o 1450 hyd 1600 (Lerpwl, 1922). [Beirniadaeth lenyddol]
  • W. J. Gruffydd, Llenyddiaeth Cymru, rhyddiaith o 1540 hyd 1660 (Wrecsam, 1926). [Beirniadaeth lenyddol]
  • W. J. Gruffydd, Llythyrau’r Morysiaid (Caerdydd, 1940).
  • W. J. Gruffydd, The Mabinogion (Llundain, 1913).
  • W. J. Gruffydd, Blodeuglwm o Englynion (Caerdydd, dim dyddiad). [englynion wedi’i dethol a’i golygu gab W. J. Gruffydd]
  • W. J. Gruffydd, Y Flodeugerdd Gymraeg (Caerdydd, 1931).
  • (gol.) W. J. Gruffydd a G. J. Williams, Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, 1938, Barddoniaeth a Beirniadaethau (Lerpwl, 1938).
  • Alafon, W. J. Gruffydd ac Eifion Wyn, Eisteddfod Genedlaethol Bangor, 1902, Yr Awdl, Y Bryddest A’r Telynegion (Caernarfon, 1902).
  • W. J. Gruffydd, ‘Donwy’ a ‘Pangur’, Bulletin of the Board of Celtic Studies, VII (Rhydychen, 1933), tt. 1–4.
  • W. J. Gruffydd, ‘Mabon ab Modron’, Revue Celtique, vol. 33, rhif 4 (Paris, 1912), tt. 452–261.
  • W. J. Gruffydd, Math vab Mathonwy : an inquiry into the origins and development of the fourth branch of the Mabinogi (Caerdydd, 1938). [Beirniadaeth lenyddol]
  • W. J. Gruffydd, ‘Morgan Llwyd a Llyfr y Tri Aderyn’, Y Cofiadur, rhif 3 (Mawrth 1925), tt. 4–21.
  • W. J. Gruffydd, ‘Nodiadau ar waith Dafydd ap Gwilym’, Bulletin Board of Celtic Studies, vol. 8, pt. 4 (Mai 1937), tt. 301–306.
  • W. J. Gruffydd, Rhiannon (Caerdydd, 1953). [Beirniadaeth lenyddol]
  • R. Silyn Roberts a W. J. Gruffydd, Telynegion (Bangor, 1900). [Barddoniaeth]
  • W. J. Gruffydd, Y Tro Olaf (Aberystwyth, 1939).
  • W. J. Gruffydd, Wil Ni (Lerpwl, 1962).
  • W. J. Gruffydd, cyfieithiad D. Myrddin Lloyd, The Years of the Locust (Llandysul, 1976).
  • W. J. Gruffydd, ‘Yn ôl i’r Simnai Fawr’, Allwedd y Tannau, rhif 67 (2008), tt. 69–74.
  • W. J. Gruffydd, Ynys yr Hud a chaneuon eraill (Caerdydd, 1923). [Barddoniaeth]
  • W. J. Gruffydd, ‘Bethesda’r Fro’, yn (deth.) T. Rowland Hughes, Storïau Radio (Llandysul, 1941), tt. 11–18.
  • W. J. Gruffydd, Owen Morgan Edwards, Cofiant Cyfrol I, 1858–1883 (Aberystwyth, 1937).
  • W. J. Gruffydd, Y Morysiaid (The Morris Brothers) (Caerdydd, 1939).
  • W. J. Gruffydd, gyda rhagymadrodd a sylwadau gan T. Robin Chapman, Nodiadau’r Golygydd (Llandybïe, 1986).
  • W. J. Gruffydd, ‘Foreword’, Dim awdur, A New University of Wales (Caerdydd, 1945), tt. 3–4.
  • W. J. Gruffydd, Rhagarweiniad i Farddoniaeth Cymru cyn Dafydd ap Gwilym (Caerdydd, 1937).
  • W. J. Gruffydd, ‘Gair Personol’, Tir Newydd, rhif 12 (Mai 1938), tt. 26–27.
  • W. J. Gruffydd, ‘Dyma Farn W. J. Gruffydd Am Lyfrau Hugh Evans, Gwasg “Y Brython”’, Tir Newydd, rhif 12 (Mai 1938), t. 32.
  • W. J. Gruffydd, C, (, 19).
  • W. J. Gruffydd, Islwyn (Gwasg Prifysgol Cymru, 1942) [Beirniadaeth lenyddol]
  • W. J. Gruffydd, Cofiant O. M. Edwards (1937) [Rhyddiaith]
  • (Gol.) W. J. Gruffydd, Perl mewn adfyd (Huw Lewys), argraffiad newydd (1929)

Astudiaethau[golygu | golygu cod]

  • Dafydd Johnson, ‘Misanthropic Humanist’, The New Welsh Review, rhif 24 (Spring 1994).
  • T. Robin Chapman, ‘Cyffes cofiannydd’, Llais Llyfrau (Hydref 1994), tt. 6–7.
  • T. Robin Chapman, Dawn Dweud: W. J. Gruffydd (Caerdydd, 1993).
  • Meredydd Evans, ‘Gwelodd hwn harddwch’, Y Casglwr, rhif 13 (Mawrth 1981), t. 13.
  • Pennar Davies, ‘Gyda men yng ngwlad barddoniaeth: llencyndod W. J. Gruffydd’, Fflam, rhif 11 (Awst 1952), tt. 2–6.
  • D. Tecwyn Lloyd, ‘Peth o farddoniaeth W. J. Gruffydd: ystyriaeth’, Llên cyni a rhyfel a thrafodion eraill (1987) tt. 79–95.
  • D. Tecwyn Lloyd, ‘W. J. Gruffydd: Beirniad Dywilliant a Golygydd’, Llên cyni a rhyfel a thrafodion eraill, (1987) tt. 103–128.
  • Aneurin ap Talfan, ‘[W. J. Gruffydd]’, Tir Newydd, rhif 12 (Mai 1938), tt. 4–5.
  • Glyn M. Aston, ‘[W. J. Gruffydd]’, Tir Newydd, rhif 12 (Mai 1938), tt. 5–7.
  • G. G. Evans, ‘[W. J. Gruffydd]’, Tir Newydd, rhif 12 (Mai 1938), tt. 7–8.
  • Idris Ll. Foster, ‘[W. J. Gruffydd]’, Tir Newydd, rhif 12 (Mai 1938), tt. 8–9.
  • Ll, Wyn Griffith, ‘[W. J. Gruffydd]’, Tir Newydd, rhif 12 (Mai 1938), tt. 9–10.
  • Glyn Jones, ‘[W. J. Gruffydd]’, Tir Newydd, rhif 12 (Mai 1938), tt. 11–12.
  • Gwilym R. Jones, ‘[W. J. Gruffydd]’, Tir Newydd, rhif 12 (Mai 1938), tt. 12–13.
  • T. Gwynn Jones, ‘[W. J. Gruffydd]’, Tir Newydd, rhif 12 (Mai 1938), tt. 13–16.
  • Saunders Lewis, ‘[W. J. Gruffydd]’, Tir Newydd, rhif 12 (Mai 1938), tt. 16–17.
  • D. Myrddin Lloyd, ‘[W. J. Gruffydd]’, Tir Newydd, rhif 12 (Mai 1938), tt. 17–19.
  • R. Williams-Parry, ‘W. J. G.’, Tir Newydd, rhif 12 (Mai 1938), t. 19. [Soned]
  • T. H. Parry-Williams, ‘Wrth Gofio’, Tir Newydd, rhif 12 (Mai 1938), t. 20. [Soned]
  • Iorweth C. Peate, ‘[W. J. Gruffydd]’, Tir Newydd, rhif 12 (Mai 1938), tt. 20–22.
  • W. H. Reese, ‘[W. J. Gruffydd]’, Tir Newydd, rhif 12 (Mai 1938), tt. 22–25.
  • Lotta Rowlands, ‘[W. J. Gruffydd]’, Tir Newydd, rhif 12 (Mai 1938), t. 25.
  • Meredydd Evans, ‘W. J. Gryffudd a’r Gymraeg’, Taliesin, rhif 69 (Mawrth 1990), tt. 73–88.
  • Marian Goronwy-Roberts, W. J. Gruffydd (Gwynedd, 1981).
  • Meinir Pierce Jones, ‘W. J. Gruffydd’, yn (gol.) Robert Rhys, Y Patrwm Amryliw (Cyfrol 1), tt. 53–64.
  • Marian Goronwy-Roberts, ‘W. J. Gruffydd’ (Gwynedd, 1981).
  • T. J. Morgan, W. J. Gruffydd (Gwasg Prifysgol Cymru, 1970)
  • Geraint Bowen (gol.), Bro a Bywyd: W. J. Gruffydd 1881-1954 (Barddas, 1994)
Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o'r cofnod W. J. Gruffydd ar yr Esboniadur, adnodd addysgiadol agored gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae gan y cofnod penodol hwnnw'r drwydded agored CC BY-SA 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith.