Huw Lewys

Oddi ar Wicipedia
Huw Lewys
Ganwyd1562 Edit this on Wikidata
Bu farw1634 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethclerig, ysgrifennwr, bardd Edit this on Wikidata

Clerigwr a llenor Cymraeg oedd Huw Lewys[1][2] (hefyd Hugh Lewis[3]) (1562 - 1634), a gofir yn bennaf fel awdur y gyfrol Perl mewn Adfyd.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Brodor o Fodellog ym mhlwyf Llanwnda, ger Caernarfon, oedd Hugh Lewis, a aned yno yn 1562. Hanodd o deulu enwog am offeiriaid a llenorion.[2] Cafodd ei addysg brifysgol yng Ngholeg yr Holl Eneidiau, Rhydychen.[3]

Daeth yn glerigwr Anglicanaidd ar ôl gadael Rhydychen. Ym 1590 cafodd fywoliaeth plwyf Llanddeiniolen, Sir Gaernarfon (Gwynedd heddiw). Ym 1608 cafodd ei apwyntio'n Ganghellor Eglwys Gadeiriol Bangor. Ym 1623 olynodd y bardd Edmwnd Prys fel rheithor plwyfi Ffestiniog a Maentwrog ym Meirionnydd. Bu farw ym 1634.[3]

Gwaith llenyddol[golygu | golygu cod]

Ei brif waith llenyddol yw'r gyfrol Perl mewn Adfyd a gyhoeddwyd yn Llundain ym 1595. Cyfieithiad i'r Gymraeg ydyw o lyfr y Protestant Seisnig Miles Coverdale, sef A Spyrytuall and most Precious Pearle. Roedd hwnnw yn ei dro yn gyfieithiad o'r traethawd Almaeneg Kleinot gan Otto Werdmüller (bu farw 1551).[2]

Ceir cywydd gan Huw ar ddiwedd y Perl mewn Adfyd, sy'n dangos ei fod yn cyfansoddi cerddi caeth hefyd.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Thomas Parry, Hanes Llenyddiaeth Gymraeg hyd 1900 (Gwasg Prifysgol Cymru, 1944).
  2. 2.0 2.1 2.2 W. J. Gruffydd, Llenyddiaeth Cymru. Rhyddiaith o 1540 hyd 1660 (Hughes a'i Fab, Wrecsam, 1926).
  3. 3.0 3.1 3.2 Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru).