Prifysgol Cymru (etholaeth seneddol)

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Prifysgol Cymru
Etholaeth Prifysgol
Creu: 1918
Diddymwyd: 1950
Math: Tŷ'r Cyffredin
Aelodau:Un

Cyn-etholaeth seneddol oedd Prifysgol Cymru. Roedd yn dychwelyd un Aelod i Dŷ'r Cyffredin y Deyrnas Unedig. Yn wahanol i etholaethau eraill Cymru, nid oedd yn ardal ddaearyddol arbennig. Yr etholwyr oedd graddedigion Prifysgol Cymru.

Crewyd yr etholaeth gan Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1918. Cafodd yr etholaeth ei dileu yn 1950 dan Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1948.

Aelodau Seneddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Canlyniad Etholiadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Etholiad 1918[golygu | golygu cod y dudalen]

John Herbert Lewis AS
Etholiad cyffredinol 1918: Etholaeth Prifysgol Cymru

Nifer y pleidleiswyr 1,066

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol John Herbert Lewis 739 80.8
Llafur Mrs H M MacKenzie 176 19.2

Etholiad 1922[golygu | golygu cod y dudalen]

Etholiad cyffredinol 1922: Etholaeth Prifysgol Cymru

Nifer y pleidleiswyr 1,441

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydwr Cenedlaethol Thomas Arthur Lewis 497 39.5
Rhyddfrydol Syr Ellis Jones Ellis-Griffith 451 35.9
Llafur Dr Olive Annie Wheeler 309 24.6
Etholiad cyffredinol 1923: Etholaeth Prifysgol Cymru

Nifer y pleidleiswyr 1,992

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Heddychwr Cristionogol George Maitland Lloyd Davies 570 35.7
Rhyddfrydol Y Parch J Jones 560 35.1
Rhyddfrydwr Annibynnol Major Jack Edwards 467 292

Etholiad 1924[golygu | golygu cod y dudalen]

Etholiad cyffredinol 1924: Etholaeth Prifysgol Cymru

Nifer y pleidleiswyr 2,252

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol Ernest Evans 1,057 59.4
Llafur George Maitland Lloyd Davies 721 40.6

Etholiad 1929[golygu | golygu cod y dudalen]

Etholiad cyffredinol 1929: Etholaeth Prifysgol Cymru

Nifer Pleidleiswyr 3,623

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol Ernest Evans 1,712 63.5
Llafur D Richards 671 24.9
Ceidwadwyr Syr C C Mansel 314 11.6
Mwyafrif 1,041
Rhyddfrydol yn cadw Gogwydd

Etholiad 1931[golygu | golygu cod y dudalen]

Etholiad cyffredinol 1931: Prifysgol Cymru

Nifer Pleidleiswyr 5,121

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol Ernest Evans 2,229 70.9
Plaid Cymru Saunders Lewis 914 19.1
Mwyafrif 1,315
Rhyddfrydol yn cadw Gogwydd

Etholiad 1935[golygu | golygu cod y dudalen]

Etholiad cyffredinol 1935: Prifysgol Cymru

Nifer Pleidleiswyr 5,121

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol Ernest Evans 2,796 61.3
Llafur I Davies 1,768 38.7
Mwyafrif 1,028
Rhyddfrydol yn cadw Gogwydd

Isetholiad 1943[golygu | golygu cod y dudalen]

Ymddiswyddodd Ernest Evans o'r Senedd pan gafodd ei benodi yn farnwr llys sirol a galwyd isetholiad a gynhaliwyd rhwng 25 a 29 Ionawr 1943. Isetholiad sydd wedi dod yn chwedlonol yn hanes gwleidyddol Cymru oherwydd chwerwedd y frwydr rhwng W. J. Gruffydd yr ymgeisydd Rhyddfrydol (a chyn is-lywydd Plaid Cymru) a Saunders Lewis ymgeisydd Plaid Cymru.[1]

Doedd dim ymgeiswyr gan y Blaid Lafur na'r Blaid Geidwadol oherwydd cytundeb rhwng y pleidiau na fyddant yn ymladd isetholiadau yn erbyn ei gilydd yn ystod yr Ail Ryfel Byd.[2]

Isetholiad Prifysgol Cymru 1943

Nifer Pleidleiswyr 11,079

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol Yr Athro W. J. Griffith 2,229 52.4
Plaid Cymru Saunders Lewis 1,330 22.4
Annibynnol Alun Talfan Davies 755 12.8%
Llafur Annibynnol E Davies 634 10.7%
Llafur Annibynnol N L Evans 101 1.7%
Mwyafrif 1,768 29.8%
Rhyddfrydol yn cadw Gogwydd

Etholiad 1945[golygu | golygu cod y dudalen]

Etholiad cyffredinol 1945: Prifysgol Cymru

Nifer Pleidleiswyr 11,847

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol W. J. Griffith 5,239 75.5
Plaid Cymru Dr Gwenan Jones* 1,696 24.5
Mwyafrif 3,543
Rhyddfrydol yn cadw Gogwydd
  • Dr Gwenan Jones oedd yr ymgeisydd benywaidd cyntaf i ymladd etholiad Seneddol yn enw Plaid Cymru.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]