George Maitland Lloyd Davies

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Gwleidydd a heddychwr oedd George Maitland Lloyd Davies neu George M. Ll. Davies fel roedd yn cael ei adnabod, (30 Ebrill 1880 - 16 Rhagfyr 1949).

Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Davies yn Peel Road, Sefton Park, Lerpwl, yn bedwerydd mab bu fyw, i John Davies (1837-1909), marsiandwr te, a Gwen, née Jones (1839-1918). Roedd yn ŵyr y pregethwr John Jones, Talysarn a brawd y cerddor John Glyn Davies.Roedd y teulu yn rhan amlwg o gymdeithas a diwylliant Cymreig a Chymraeg y ddinas ac yn aelodau o gapel MC Princes Road. Cafodd bywyd cynnar Davies ei effeithio gan fethdaliad ei dad ym 1891.[1][2]

Bywyd personol[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar 5 Chwefror 1916 priododd Eleanor Leslie Royde Smith (1884-1973), chwaer y nofelydd Naomi Royde Smith, yn Finchley; bu iddynt un plentyn, Jane Hedd.[1]

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Wedi ymadael a'r ysgol yn 16 oed aeth i weithio i Fanc Martin's yn Lerpwl gan gael ei ddyrchafu yn ysgrifennydd y rheolwr. Ym 1908 cafodd ei benodi yn rheolwr Banc Martin's Wrecsam. Yn ystod ei gyfnod yn Wrecsam fe fu yn swyddog yn y fyddin diriogaethol. Ym 1913 wedi pwl o salwch meddwl ymddiswyddodd o'r banc; tua'r un cyfnod daeth i sylwi nad oedd modd iddo ladd eraill gan hynny fe ymddiswyddodd o'r fyddin hefyd. Cafodd ei benodi yn ysgrifennydd Ymddiriedolaeth Cynllunio a Thai Cymru.[2]

Rhyfel Byd Cyntaf[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar doriad y Rhyfel Byd Cyntaf bu Davies yn un o sylfaenwyr Cymdeithas y Cymod cymdeithas a oedd yn hyrwyddo cymod heddychlon rhwng unigolion fel modd i wrthwynebu rhyfel. Bu Davies yn gweithio i'r gymdeithas yn Llundain am gyfnod.

Pan gyflwynwyd gwasanaeth milwrol gorfodol ym 1916, ymddangosodd Davies o flaen Tribiwnlys Milwrol yn Finchley gan hawlio ei fod yn Wrthwynebydd Cydwybodol[3] a chafodd ei ryddhau yn ddiamod, cafodd ei alw o falen Tribiwnlys Westminster lle cafodd ei ryddhau ar yr amod ei fod yn gwneud gwaith dyngarol o dan nawdd Cymdeithas y Cyfeillion, gan hynny aeth i weithio i gartref ar gyfer pobl ifanc tramgwyddus ym Melton Mowbray. Cafodd ei alw o flaen y Tribiwnlys Canolog lle cafodd ei ryddhau i gyflawni gwaith amaethyddol gan weithio fel bugail yn Llanaelhaearn am gyfnod.

Ym mis Medi 1917 gofynnodd Davies i'r Tribiwnlys Ganolog am ryddhad oddi wrth amodau ei ryddhau o wasanaeth milwrol, ond gwrthodwyd hynny, ymateb Davies oedd nad oedd yn fodlon barhau i gadw at yr amodau, gan hynny cafodd ei ryddhad amodol ei wyrdroi a chafodd ei orchymyn i ymuno a'r fyddin. Gwrthododd, a chafodd ei garcharu o fis Ionawr 1918 hyd Fis Mehefin 1919 yng Ngharchardai Woormwood Scrubs, Dartmoor a Knutsford.[4][5]

Gyrfa Wleidyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar gais Thomas Jones aeth Davies i'r Iwerddon sawl gwaith rhwng 1920 a 1921 i geisio creu amodau trafodaethau rhwng Éamon de Valera a Lloyd George fe lwyddodd i gael cyfarfod gyda De Valera ac i sicrhau bod dirprwyaeth Wyddelig (ond nid de Valera, ei hun) yn cyfarfod gyda'r brif weinidog.[2]

Ym 1923 etholwyd Davies i'r Senedd[6] fel heddychwr Cristionogol annibynnol ar gyfer etholaeth Prifysgol Cymru. Cymerodd chwip y Blaid Lafur, heb ymuno a'r blaid gan ddymuno cadw'r rhyddid i siarad a gweithredu yn ôl ei gydwybod. Collodd y sedd yn yr etholiad canlynol ym 1924.[2]

Gweinidog yr Efengyl[golygu | golygu cod y dudalen]

Ym 1926 cafodd Davies ei ordeinio yn weinidog gydag enwad y Methodistiaid Calfinaidd gan wasanaethu fel bugail eglwysi yn Nhywyn a Chwm Maethlon yn Sir Feirionnydd.[1][7]

Ym 1937 sefydlodd cymdeithas Heddychwyr Cymru gan wasanaethu fel ei Lywydd gan gyd weithio yn agos a Gwynfor Evans, ysgrifennydd y mudiad.

Gyda thwf Ffasgiaeth ar y cyfandir a'r tebygolrwydd o Ail Ryfel Byd yn cychwyn, bu Davies yn hynod weithgar yn cyhoeddi pamffledi, erthyglau a llythyrau yn annog cymod a heddwch.

Rhwng 1946 a 1949 bu'n gwasanaethu fel cadeirydd Undeb yr Addewid Heddwch[8]

Marwolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu G M Ll yn dioddef o iselder drwy gydol ei fywyd fel oedolyn; ym 1949 aeth i dderbyn triniaeth fel claf gwirfoddol yn Ysbyty Meddwl Gogledd Cymru, Dinbych lle gyflawnodd weithred o hunanladdiad ar 16 Rhagfyr, 1949.[2]

Claddwyd ei weddillion yn Nolwyddelan, pentref gartref ei deulu.[1]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 Y Bywgraffiadur ar lein, DAVIES, GEORGE MAITLAND LLOYD (1880-1949 ) [1] adalwyd 12 Rhagfyr 2015
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 Jen Llywelyn and Paul O'Leary, ‘Davies, George Maitland Lloyd (1880–1949)’, Oxford Dictionary of National Biography, Oxford University Press, May 2011 adalwyd 12 Rhagfyr 2015
  3. Cymru yn y Rhyfel Gwrthwynebwyr Cydwybodol [2] adalwyd 12 Rhagfyr 2015
  4. "MR GEORGE DAVIES - Y Dinesydd Cymreig". s.t.. 1917-12-12. http://hdl.handle.net/10107/4016340. Adalwyd 2015-12-12.
  5. "MAWRHYDI CYDWYBOD - Gwyliedydd Newydd". Lewis Davies. 1918-01-08. http://hdl.handle.net/10107/4029529. Adalwyd 2015-12-12.
  6. James, Arnold J a Thomas, John E. Wales at Westminster - A History of the Parliamentry Representation of Wales 1800-1979 Gwasg Gomer 1981 ISBN 0 85088 684 8
  7. Llyfrgell Genedlaethol Cymru Papurau George M. Ll. Davies [3] adalwyd 12 Rhagfyr 2015
  8. About the Peace pledge Union [4] adalwyd 12 Rhagfyr 2015


Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Thomas Arthur Lewis
Aelod Seneddol dros Brifysgol Cymru
19231924
Olynydd:
Ernest Evans