Etholaethau'r Deyrnas Unedig

Oddi ar Wicipedia

Yr enw am ardal etholiad yn y Deyrnas Unedig yw etholaeth; mae pob etholaeth yn dewis un neu fwy o aelodau senedd neu gynulliad.

Mae pump corff cenedlaethol a gaiff ei ethol gan etholaeth yn y Deyrnas Unedig:

Defnyddir etholaethau rhanbarthol ar gyfer etholiadau i Senedd Ewrop. (Gweler Rhestr etholaethau Senedd Ewrop.)

Yn etholiadau llywodraeth leol, gelwir rhanbarthau etholiadol yn ward neu'n ranbarth etholiadol.

Etholaethau sirol a bwrdeistrefol[golygu | golygu cod]

Mae etholaethau'r Tŷ'r Cyffredin, Senedd yr Alban a Chynulliad Cenedlaethol Cymru i gyd wedi eu dynodi ynteu'n etholaeth sirol neu'n etholaeth fwrdeistrefol, ("borough", heblaw yn yr Alban lle defnyddir y gair burgh yn hytrach na borough). Mae etholaethau bwrdeistrefol yn rai trefol yn bennaf. Dyma yw olynydd yr bwrdeistrefi seneddol hanesyddol. (Roedd pob burgh yn yr Alban, heblaw un, yn rhan o etholaeth ardal o fwrdeistrefi. Yr eithriad oedd burgh Caeredin, a oedd hefyd yn etholaeth Caeredin yn ei hun.)

Etholaethau sirol yw'r olynwyr i'r rhanbarthau seneddol o siroedd: maent yn bennaf yn ardaloedd gwledig. Weithiau, gall tref gael ei rannu rhwng sawl etholaeth, gydag un rhan y fwrdeistref mewn un etholaeth ac un arall mewn etholaeth gwahanol: er enghraifft, Reading a Milton Keynes.

Mae'r cyfyngiadau gwario ar gyfer y ddwy fath o etholaeth ar gyfer ymgyrch etholiad yn wahanol, gan fod yn rhaid i ymgeiswyr mewn etholaethau gwledig deithio'n bellach fel arfer.


Etholaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru[golygu | golygu cod]

Mae 40 etholaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar draws Gymru, ac mae pob un yn ethol un Aelod Cynulliad gan ddefnyddio system etholaeth cyntaf heibio i'r post. Caiff yr etholaethau hefyd eu grŵpio'n bedwar ardal etholaethol, ac mae pob ardal yn ethol aelodau ychwanegol, er mwyn ffurfio rhyw fath o gynyrchioliad cyfrannol aelodau cymysg.

Mae gan etholaethau'r cynulliad yr un enwau a etholaethau'r Tŷ Cyffredin, ond yn 2007, crewyd set newydd o etholaethau[1] ar gyfer Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 2007.

Y set cyfredol o etholaethau'r Cynulliad yw'r ail i gael ei greu. Crewyd y cyntaf ar gyfer etholiad cyntaf y Cynulliad ym 1999.

Etholaethau Senedd Ewrop[golygu | golygu cod]

Mae deuddeg o Etholaethau Senedd Ewrop yn y Deyrnas Unedig. Mae pob un heblaw un wedi'u lleoli yn gyfan gwbl o fewn y Deyrnas Unedig. Yr eithriad yw etholaeth De-orllewin Lloegr, sy'n cynnwys Gibraltar.[2] Mae pob etholaeth yn ethol sawl Aelod Senedd Ewrop (ASE) gan ddefnyddio dull d'Hondt o gynyrchioliad cyfrannol rhestr-plaid.

Defnyddiwyd y set gyfredol o etholaethau Senedd Ewrop y DU yn Etholiad Senedd Ewrop 1999 pan etholwyd Aelodau Senedd Ewrop ar gyfer y Deyrnas Unedig 2009-2014.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. The Parliamentary Constituencies and Assembly Electoral Regions (Wales) Order 2006, "Office of Public Sector Information"
  2. "Gibraltar should join South West for elections to European Parliament, Comisiwn Etholiadol, 28 Awst 2003". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-12-05. Cyrchwyd 2008-11-24.