Etholaethau a Rhanbarthau etholiadol Senedd Cymru
| Etholaethau a rhanbarthau etholiadol Senedd Cymru | |
|---|---|
Map yn dangos yr 16 etholaeth a gafodd eu defnyddio yn etholiad 2026. Mae 6 Aelod o'r Senedd yn cynrychioli pob etholaeth. | |
| Categori | Etholaeth |
| Lleoliad | Cymru |
| Crëwyd gan | Deddf Llywodraeth Cymru 1998 |
| Crëwyd | 12 Mai 1999 |
| Nifer | 96 (ar ôl 2026) |
| Llywodraeth | Senedd |
| Llywodraeth Cymru | |
| Mae'r erthygl hon yn rhan o'r gyfres: |
|
Cymru o fewn y Deyrnas Unedig
Gweithgarwch gwleidyddol
|
|
|
- Am restr o'r etholaethau a ddefnyddir ar hyn o bryd, gweler Etholaethau Senedd Cymru (Mai 2026 ymlaen).
Etholaethau Senedd Cymru yw'r ardaloedd daearyddol a ddefnyddir i ethol Aelodau o'r Senedd (AS; Saesneg: Members of the Senedd, MS) i Senedd Cymru. Ers Etholiad Senedd Cymru, 2026, a gynhaliwyd ar 7 Mai 2026, mae'r Senedd yn cynnwys 96 o aelodau a etholwyd am dymor o bedair blynedd. Ar hyn o bryd, mae etholiadau'n defnyddio system bleidleisio rhestrau pleidiau, gydag 16 etholaeth yn ethol 6 aelod yr un. Fodd bynnag, cyn 2026 defnyddiwyd system bleidleisio wahanol, gyda 40 o etholaethau llai a 5 o rhanbarthau etholiadol hefyd.
Ar ben hynny, cyn 2020 roedd y Senedd yn cael ei hadnabod fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'r aelodau yn Aelodau Cynulliad (AC; Saesneg: Assembly Members, AM). Yn y blynyddoedd ers yr etholiad cyntaf i'r Cynulliad yn 1999, bu nifer o newidiadau o ran enwau a ffiniau'r etholaethau. Dyma grynodeb o hanes y newidiadau hynny.
Sefydlu – Etholaethau a rhanbarthau etholiadol
[golygu | golygu cod]Ar ôl y refferendwm ar ddatganoli i Gymru yn 1997, sefydlwyd Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'i etholaethau a'i rhanbarthau etholiadol gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998. Dywedodd adran 2 o'r ddeddf mai'r un fyddai etholaethau ar gyfer y Cynulliad a'r etholaethau a ddefnyddid ar gyfer etholiadau i Senedd y Deyrnas Unedig.[1] Creodd yr un ddeddf hefyd bum rhanbarth etholiadol, a'r rhai â'r un ffiniau â phump etholaeth Senedd Ewrop yng Nghymru a nodwyd gan Orchymyn Etholaethau Senedd Ewrop (Cymru) 1994.[2] Parhaodd y pum rhanbarth hynny i gael eu defnyddio mewn etholiadau Cynulliad a Senedd tan 2026, er iddynt roi'r gorau i gael eu defnyddio mewn etholiadau Senedd Ewrop yn 1999, pan gawsant eu disodli gan etholaeth Cymru-gyfan. (O reidrwydd, daeth yr etholaeth Cymru gyfan honno i ben pan adawodd y Deyrnas Unedig o'r Undeb Ewropeaidd yn 2020 – gweler Brexit.)
Roedd pob un o'r pum rhanbarth etholiadol yn cynnwys rhwng saith a naw etholaeth. Ar ben y 40 o Aelodau Cynulliad a etholwyd gan yr etholaethau, defnyddid system aelodau ychwanegol i ethol 20 o Aelodau ychwanegol o'r rhanbarthau etholiadol, pedwar Aelod o bob rhanbarth.
Roedd gan pob etholwr ddwy bleidlais:
- un bleidlais i ddewis ymgeisydd unigol ar gyfer yr etholaeth, gan ddefnyddio'r system "cyntaf i'r felin"
- un bleidlais i ddewis ymgeisydd ar sail plaid o restr gaeedig ar gyfer y rhanbarth etholiadol, gan ddefnyddio dull D'Hondt
Felly, hyd nes i'r system etholiadol gael ei newid yn 2026, cynrychiolwyd pob etholwr gan un aelod etholaethol a phedwar aelod rhanbarthol.
Etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 1999 a 2003
[golygu | golygu cod]Ar gyfer yr etholiadau i'r Cynulliad yn 1999 a 2003 roedd 40 etholaeth a 5 rhanbarth etholiadol.[3]
Y 40 etholaeth (un Aelod Cynulliad yr un):
Y 5 rhanbarth (pedwar Aelod Cynulliad yr un):
| Rhanbarth | Etholaethau | Map |
|---|---|---|
| Canol De Cymru |
1. Bro Morgannwg |
|
| Canolbarth a Gorllewin Cymru |
1. Brycheiniog a Sir Faesyfed |
|
| Dwyrain De Cymru |
1. Blaenau Gwent |
|
| Gogledd Cymru |
1. Alun a Glannau Dyfrdwy |
|
| Gorllewin De Cymru |
1. Aberafan |
2006: Newid ffiniau
[golygu | golygu cod]Yn 2006 gweithredwyd Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Atgyfnerthodd y ddeddf y cysylltiad rhwng etholaethau'r Cynulliad ac etholaethau seneddol, a bod yna bum rhanbarthau etholiadol.
Yn dilyn y pumed arolwg cyfnodol o etholaethau San Steffan, diffiniwyd y ffiniau newydd ar gyfer yr etholaethau a'r rhanbarthau etholiadol gan Orchymyn Etholaethau Seneddol a Rhanbarthau Etholiadol y Cynulliad (Cymru) 2006.[4]
Dileodd y gorchymyn dair etholaeth, sef Caernarfon, Conwy, a Meirionydd Nant Conwy, a chrëwyd tair etholaeth newydd i'w disodli, sef Aberconwy, Arfon, a Dwyfor Meirionydd. Cafodd naw etholaeth addasiadau "sylweddol" i'w ffiniau gan gynnwys y trosglwyddiad o fwy na 3,000 o drigolion rhwng yr etholaethau. Cafodd wyth etholaeth arall addasiadau i'w ffiniau gan arwain at y trosglwyddiad o lai na 3,000 o drigolion rhwng pob etholaeth, a chafodd pedair arall fân addasiadau a arweiniodd at drosglwyddiadau bach o drigolion rhwng etholaethau. Ni chafodd gweddill yr 17 o etholaethau unrhyw addasiadau i'w henwau neu eu ffiniau.
Croesai'r tair etholaeth newydd y ffiniau rhwng y rhanbarthau etholiadol o Ganolbarth a Gorllewin Cymru a Gogledd Cymru, gan arwain at addasiadau i ffiniau'r ddau ranbarth etholiadol, yn ogystal â mân addasiadau i'r etholaeth o Faldwyn a arweiniodd at fân addasiadau i ffiniau rhanbarthol hefyd. Yn Ne Cymru, newidiwyd ffiniau'r rhanbarthau etholiadol, Gorllewin De Cymru a Chanol De Cymru, oherwydd y newidiadau i ffiniau'r etholaethau Pen-y-bont ar Ogwr a Bro Morgannwg.
Etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2007, 2011 a 2016
[golygu | golygu cod]Daeth y newidiadau o ffiniau'r etholaethau a'r rhanbarthau etholiadol i rym ar gyfer etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2007. Defnyddiwyd yr un ffiniau yn etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig yn 2010, felly rhwng 2007 a 2010 roedd ffiniau gwahanol gan etholaethau Cynulliad Cymru a Senedd y Deyrnas Unedig.
Ni newidiwyd nifer yr etholaethau gan y newidiadau, felly yn yr etholiadau i'r Cynulliad yn 2007, 2011 a 2016 roedd 40 etholaeth a 5 rhanbarth etholiadol.
Rhestr ddiwygiedig y 40 etholaeth:
Cadwodd y 5 rhanbarth eu hen enwau:
| Rhanbarth | Etholaethau | Map |
|---|---|---|
| Canol De Cymru |
1. Bro Morgannwg |
|
| Canolbarth a Gorllewin Cymru |
1. Brycheiniog a Sir Faesyfed |
|
| Dwyrain De Cymru |
1. Blaenau Gwent |
|
| Gogledd Cymru |
1. Aberconwy |
|
| Gorllewin De Cymru |
1. Aberafan |
Etholiad Senedd Cymru 2021
[golygu | golygu cod]Ar 6 Mai 2020 daeth Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 i rym, gan ailenwi Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Senedd Cymru. Heblaw am yr ailenwi hwnnw, arhosodd yr etholaethau yn etholiad 2021 yr un fath ag yr oeddent o'r blaen, sef y 40 etholaeth a 5 rhanbarth etholiadol.
2024: Ehangu a diwygio'r Senedd
[golygu | golygu cod]Ar 8 Mai 2024 pasiwyd Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 a gynyddodd faint y Senedd o 60 aelod i 96 aelod.[5][6]
Etholiad Senedd Cymru, 2026
[golygu | golygu cod]Ers Etholiad Senedd Cymru, 2026 mae'r Senedd yn cynnwys 96 o aelodau a etholwyd am dymor o bedair blynedd. Mae etholiadau'n seiliedig ar system bleidleisio rhestr plaid, gyda 16 etholaeth yn dychwelyd 6 aelod yr un.
Dyma'r 16 etholaeth. Mae pob un o'r rhain yn defnyddio enwau Cymraeg, heb fersiynau Saesneg swyddogol cyfatebol. Mae eu ffiniau'n cyfateb i bâr o etholaethau ar gyfer Senedd y Deyrnas Unedig. Er enghraifft, mae etholaeth Senedd Afan Ogwr Rhondda yn cynnwys y ddwy etholaeth San Steffan Aberfan Maesteg a Rhondda ac Ogwr.

Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Deddf Llywodraeth Cymru 1998". deddfwriaeth.gov.uk. Llywodraeth y DU.
- ↑ "Gorchymyn Etholaethau Seneddol Ewropeaidd (Cymru) 1994". deddfwriaeth.gov.uk. Llywodraeth y DU.
- ↑ "Gorchymyn Etholaethau Seneddol a Rhanbarthau Etholiadol y Cynulliad (Cymru) 2006". deddfwriaeth.gov.uk. Senedd y DU.
- ↑ "Gorchymyn Etholaethau Seneddol a Rhanbarthau Etholiadol y Cynulliad (Cymru) 2006". deddfwriaeth.gov.uk.
- ↑ "Aelodau'n pleidleisio o blaid diwygio'r Senedd". Golwg360. 2024-05-08. Cyrchwyd 2024-05-26.
- ↑ "Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau)". busnes.senedd.cymru. 2023-09-18. Cyrchwyd 2024-05-26.