Conwy (etholaeth Cynulliad)
Gwedd
| Enghraifft o: | etholaeth Senedd Cymru |
|---|---|
| Daeth i ben | 2007 |
| Dechrau/Sefydlu | 1999 |
![]() | |
| Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
| Rhanbarth | Gogledd Cymru |
| Dynodwyr | |
Etholaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru o fewn Rhanbarth Gogledd Cymru oedd Conwy. Cafodd yr etholaeth ei chreu ar gyfer etholiad cyntaf y Cynulliad, 1999. Fe'i diddymwyd fel rhan o'r diwygiadau etholiadol cyn etholiad 2007. Bryd hynny newidiwyd y ffiniau ac aeth Bangor yn rhan o etholaeth Arfon ac ategwyd Nan Conwy i'r etholaeth gan greu etholaeth newydd Aberconwy.
-
Etholaeth Conwy yn rhanbarth Gogledd Cymru fel yr oedd yn ystod 1999–2007
Aelodau Cynulliad
[golygu | golygu cod]- 1999–2003: Gareth Jones (Plaid Cymru)
- 2003–2007: Denise Idris-Jones (Llafur)
Canlyniad etholiadau
[golygu | golygu cod]| Etholiad Cynulliad 2003: Conwy | |||||
|---|---|---|---|---|---|
| Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
| Llafur | Denise Idris Jones | 6,467 | 30.9 | +0.8 | |
| Plaid Cymru | Gareth Jones | 6,395 | 30.6 | +0.0 | |
| Ceidwadwyr | Guto Bebb | 5,152 | 24.6 | +6.1 | |
| Democratiaid Rhyddfrydol | Graham Rees | 2,914 | 13.9 | −2.6 | |
| Mwyafrif | 72 | 0.3 | |||
| Y nifer a bleidleisiodd | 20,928 | 38.4 | −10.8 | ||
| Llafur yn disodli Plaid Cymru | Gogwydd | ||||
| Etholiad Cynulliad 1999: Conwy | |||||
|---|---|---|---|---|---|
| Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
| Plaid Cymru | Gareth Jones | 8,285 | 30.6 | ||
| Llafur | Miss Cath Sherrington | 8,171 | 30.1 | ||
| Ceidwadwyr | David I. Jones | 5,006 | 18.5 | ||
| Democratiaid Rhyddfrydol | Christine Humphreys | 4,480 | 16.5 | ||
| Annibynnol | Goronwy O. Edwards | 1,160 | 4.3 | ||
| Mwyafrif | 114 | 0.4 | |||
| Y nifer a bleidleisiodd | 27,102 | 49.2 | |||
| Plaid Cymru yn cipio etholaeth newydd | |||||
