Cefin Campbell
| Cefin Campbell AS | |
|---|---|
| Aelod o Senedd Cymru dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru | |
Deiliad | |
| Cychwyn y swydd 7 Mai 2021 | |
| Rhagflaenwyd gan | Helen Mary Jones |
| Aelod o Gyngor Sir Gaerfyrddin dros ward Llanfihangel Aberbythych | |
Deiliad | |
| Cychwyn y swydd 3 Mai 2012 | |
| Manylion personol | |
| Ganwyd | Mehefin 1958 (67 oed) Glanaman |
| Plaid wleidyddol | Plaid Cymru |
Gwleidydd o Gymru sy'n aelod o Blaid Cymru yw Cefin Arthur Campbell (ganwyd Mehefin 1958). Mae'n Aelod o'r Senedd dros rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru ers etholiad Senedd 2021.
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Mae Campbell yn gyn-ddarlithydd gan weithio ym Mhrifysgolion Abertawe a Chaerdydd.
Sefydlodd y Fenter Iaith gyntaf yng Nghymru yn 1991.
Yn 2008 dechreuodd Campbell cwmni ymgynghori Sbectrwm sy'n arbenigo mewn ymchwil, cynllunio strategol, rheoli prosiectau a hyfforddiant.[1]
Cafwyd ei ethol i gynrychioli ward Llanfihangel Aberbythych ar gyfer Plaid Cymru yn etholiad Cyngor Sir Gaerfyrddin 2012. Yn 2017 cafwyd ei ail ethol a ddaeth yn aelod o'r bwrdd gweithredol dros Gymunedau a Materion Gwledig.
Yn etholiad Senedd 2021 safodd Campbell yn etholaeth Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro gan dod yn drydydd gyda 6,615 o bleidleisiau.[2] Fe wnaeth hefyd sefyll ar frig y rhestr rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin a'r gyfer Plaid Cymru gan gael ei ethol.[3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Editor (2021-04-13). "Senedd21: Cefin Campbell | Plaid Cymru | Carmarthen West and South Pembrokeshire". Swansea Bay News (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-05-08.CS1 maint: extra text: authors list (link)[dolen farw]
- ↑ "Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro - Senedd Cymru etholaethau". BBC Cymru Fyw. Cyrchwyd 2021-05-08.
- ↑ "Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, yn addo "gweithio'n adeiladol"". Golwg360. 2021-05-08. Cyrchwyd 2021-05-08.
| Senedd Cymru | ||
|---|---|---|
| Rhagflaenydd: Helen Mary Jones |
Aelod o'r Senedd dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru 2021 |
Olynydd: deiliaid |