Llanfihangel Aberbythych

Oddi ar Wicipedia
Llanfihangel Aberbythych
Llanfihangel Aberbythych Countryside.jpg
Mathcymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Gaerfyrddin Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.835°N 4.064°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000522 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auAdam Price (Plaid Cymru)
AS/auJonathan Edwards (Annibynnol)
Map

Pentref a chymuned yn Sir Gaerfyrddin, Cymru, yw Llanfihangel Aberbythych. Saif y pentref i'r de-orllewin o dref Llandeilo. Cysegrwyd yr eglwys, sy'n dyddio o 1849, i Sant Mihangel.

Heblaw pentref Llanfihangel Aberbythych, mae'r gymuned hefyd yn cynnwys pentref Carmel. Saif plasdy enwog y Gelli Aur, hen gartref teulu'r Fychaniaid, o fewn y gymuned. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 1,241, gyda 66.33% yn medru rhywfaint o Gymraeg.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Adam Price (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Jonathan Edwards (Annibynnol).[2]

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanfihangel Aberbythych (pob oed) (1,344)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanfihangel Aberbythych) (676)
  
51.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanfihangel Aberbythych) (864)
  
64.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Llanfihangel Aberbythych) (188)
  
34.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan Senedd Cymru
  2. Gwefan Senedd y DU
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]

Dolen allanol[golygu | golygu cod]