Neidio i'r cynnwys

Ann Davies (Plaid Cymru)

Oddi ar Wicipedia
Ann Davies
GanwydRhagfyr 1962 Edit this on Wikidata
Llanarthne Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd, cynghorydd, ffermwr, athro cerdd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 59ain Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Cymru Edit this on Wikidata

Mae Ann Davies yn ffarmwraig, dynes fusnes a gwleidydd Blaid Cymru. Mae hi'n aelod seneddol San Steffan dros Gaerfyrddin ers Etholiad cyffredinol 2024.[1]

Fe'i etholwyd fel cynghorydd dros ward Llanddarog ar Gyngor Sir Caerfyrddin yn 2017. Cyhoeddodd ei ymddiswyddiad yn Ionawr 2025 er mwyn canolbwyntio ar ei swydd fel aelod seneddol.[2]

Mae gan Ann Davies brofiad yn y sector amaethyddiaeth ac mae hi wedi ffermio yn Llanarthne ers 1992. Mae hi hefyd yn gydberchennog meithrinfa leol a bu’n ddarlithydd mewn dysgu blynyddoedd cynnar ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a chyn hynny bu’n gweithio fel athro cerdd peripatetig.[3]

Roedd Ann Davies, yn gynghorydd aelod cabinet dros faterion gwledig, cydlyniant cymunedol a pholisi cynllunio ar gyngor sir Gaerfyrddin.[4]

Dangosodd arolwg barn yn Chwefror 2024 bod Ann Davies ar y blaen i ennill 30% o bleidlais Caerfyrddin. Roedd y Torïaidd a Llafur yn gydradd ail gyda 24%; Jonathan Edwards fel ymgeisydd annibynol ar 10%; a’r Democratiaid Rhyddfrydol a Diwygio ar 4% yr un.[5]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Caerfyrddin - General election results 2024". BBC News (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-07-05.
  2. "Ann Davies AS yn ymddiswyddo fel cynghorydd". BBC Cymru Fyw. 2025-01-28. Cyrchwyd 2025-01-28.
  3. "Councillor to officially launch her general election campaign this week". South Wales Guardian (yn Saesneg). 2024-01-17. Cyrchwyd 2024-02-01.
  4. Mansfield, Mark (2023-11-10). "Plaid Cymru picks general election candidate for new Carmarthen seat". Nation.Cymru (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-02-01.
  5. Mansfield, Mark (2024-02-01). "Double opinion poll boost for Plaid Cymru". Nation.Cymru (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-02-01.
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Alan Wynne Williams
Aelod Seneddol dros Gaerfyrddin
2024 – presennol
Olynydd:
presennol