Dryslwyn

Oddi ar Wicipedia
Dryslwyn
Mathpentrefan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Gaerfyrddin Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.85969°N 4.10703°W Edit this on Wikidata
Map

Pentref bychan yn Sir Gaerfyrddin yw'r Dryslwyn. Fe'i lleolir ar lan ogleddol Afon Tywi tua hanner ffordd rhwng Caerfyrddin i'r gorllewin a Llandeilo i'r dwyrain. Fymryn i'r gogledd ceir pentref Felindre.

Ar graig ger y pentref ceir adfeilion Castell y Dryslwyn, a fu am gyfnod yn safle prif lys tywysogion Deheubarth. Codwyd y castell gwreiddiol gan Rhys Gryg, un o feibion yr Arglwydd Rhys, yn y 1220au.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]


Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Gaerfyrddin. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato