Gwernogle

Oddi ar Wicipedia
Gwernogle
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Gaerfyrddin Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.986398°N 4.144099°W Edit this on Wikidata
Map

Pentref bychan yng ngogledd Sir Gaerfyrddin yw Gwernogle. Fe'i lleolir tua 3 milltir i'r gorllewin o bentref Brechfa, yn y fforest o'r un enw, a thua 9 milltir i'r gogledd-ddwyrain o dref Caerfyrddin.

Gorwedd ym mhlwyf Llanfihangel-rhos-y-corn, ardal o fryniau isel a choedwigoedd mawr, ar lannau afon Clydach, un o ledneintiau afon Cothi, sy'n llifo trwy gwm dwfn yng nghanol y plwyf.

Ganwyd y bardd Lewys Glyn Cothi yn yr ardal tua'r flwyddyn 1425, ond ni wyddys ym mha ran o'r plwyf.

Brodor o Wernogle oedd yr Undodwr radicalaidd a llenor Thomas Evans (Tomos Glyn Cothi), a aned yng Nghapel Sant Silyn, ger Gwernogle, yn 1764.