Ystrad Ffin

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Pentref bychan yng ngogledd Sir Gaerfyrddin yw Ystrad Ffin (hefyd Ystradffin). Fe'i lleolir tua 10 milltir i'r gogledd o dref Llanymddyfri ar ffordd fynydd sy'n arwain o Randir-mwyn i gyfeiriad Llyn Brianne ym mryniau Elenydd.

Hanes a thraddodiadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'n rhan o blwyf eglwysig Llanfair-ar-y-bryn. Yn y cyffiniau ceir Ogof Twm Siôn Cati neu 'Stafell Twm' yn lleol. Ceir hen rigwm am gampau honedig Twm yn yr ardal:

Mae llefen mawr a gweiddi
Yn Ystrad Ffin eleni,
A'r cerrig nadd yn toddi'n blwm
Gan ofon Twm Siôn Cati.[1]

Cysylltir yr ardal a hanes cynnar Methodistiaeth hefyd. Roedd Daniel Rowland yn arfer pregethu yno o bryd i'w gilydd. Yma y ceir Capel Ystrad Ffin. Cyplysir y ddau ym marwnad Daniel Rowland gan Williams Pantycelyn:

Daeth y sŵn dros fryniau Dewi
Megis fflam yn llosgi llin,
Nes dadseinio Creigiau Tywi,
A hen gapel Ystrad Ffin.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Aneirin Talfan Davies, Crwydro Sir Gár (Llyfrau'r Dryw, Llandybie, 1955; ail argraffiad 1977), tud. 63.
  2. Crwydro Sir Gár, tud. 207.


CymruCaerfyrddin.png Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Gaerfyrddin. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato