Neidio i'r cynnwys

Porth-y-rhyd

Oddi ar Wicipedia
Porth-y-rhyd
MathWikipedia article covering multiple topics Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru

Ceir dau bentref o'r enw hwn yn Sir Gaerfyrddin.

Pentref bychan yng ngogledd Sir Gaerfyrddin yw Porth-y-rhyd (weithiau hefyd: Porthyrhyd). Mae'n rhan o gymuned Llanwrda.

Gorwedd y pentref yn y bryniau i'r gorllewin o Ddyffryn Tywi, tua hanner ffordd rhwng Caio i'r gorllewin a Llanymddyfri i'r dwyrain. Cyfeiria'r enw at y rhyd hynafol ar un o ledneintiau Afon Tywi.

Pentref yng Nghwm Gwendraeth Fach sy'n rhan o gymuned Llanddarog yw Porth-y-rhyd (weithiau hefyd Porthyrhyd). Yn 2019 roedd siop a swyddfa bost yn y pentref, a dwy dafarn, y Prince of Wales a'r Abadam Arms. Ceir capel yn perthyn i'r Bedyddwyr yn y pentref, sef. Bethlehem.


Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Gaerfyrddin. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato