Neidio i'r cynnwys

Aber-nant, Sir Gaerfyrddin

Oddi ar Wicipedia
Aber-nant
Mathcymuned, pentrefan Edit this on Wikidata
Poblogaeth297, 288, 315 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Gaerfyrddin Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd2,204.79 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.8814°N 4.4167°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000490 Edit this on Wikidata
Cod OSSN340232 Edit this on Wikidata
Cod postSA33 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Etholaeth y SeneddSir Gaerfyrddin
Etholaeth y DUSimon Hart (Ceidwadwr)
Map
Am leoedd eraill o'r un enw, gweler Abernant (gwahaniaethu).

Pentref a chymuned yn Sir Gaerfyrddin yw Aber-nant[1] (hefyd: Abernant). Yn Saesneg tueddir i ddefnyddio'r sillafiad "Abernant",[2] a arferid gynt yn Gymraeg cyn y safoni a fu ar sillafiadau enwau lleoedd Cymru yn 1957.[3]

Saif Aber-nant ar ffordd gefn, saith milltir i'r gogledd-orllewin o dref Caerfyrddin.

Cysegrwyd yr eglwys i'r Santes Lucia, a cheir cofnod ati yn 1197 sy'n cyfeirio at gysylltiad a Phriordy Sant Teilyddog. Mae mynwent yr eglwys o faint anarferol, dros bedair erw a hanner, gyda nant yn rhedeg trwyddi. Gwaharddwyd claddu ar ochr ddwyreiniol y nant ers yr 19g pan gladdwyd cannoedd o bobl tref Caerfyrddin yno adeg y pla.

Gerllaw mae Castell Dwyran, lle cafwyd hyd i garreg goffa, yn dwyn yr arysgrif Ladin Memoria Voteporigis Protictoris a'r enw "Votecorigas" mewn llythrennau Ogam; yn ôl pob tebyg carreg fedd y Vortiporius (Gwrthefyr) sy'n cael ei gondemnio gan Gildas.

Cyfrifiad 2011

[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6][7]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Aber-nant, Sir Gaerfyrddin (pob oed) (297)
 
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Aber-nant, Sir Gaerfyrddin) (150)
 
51.9%
:Y ganran drwy Gymru
 
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Aber-nant, Sir Gaerfyrddin) (172)
 
57.9%
:Y ganran drwy Gymru
 
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed (Aber-nant, Sir Gaerfyrddin) (42)
 
34.1%
:Y ganran drwy Gymru
 
67.1%

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 7 Gorffennaf 2021
  3. Rhestr o Enwau Lleoedd / A Gazetteer of Welsh Place Names, gol. Elwyn Davies (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1957; 2/1958)
  4. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-10-02. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  6. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  7. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen farw]

Dolen allanol

[golygu | golygu cod]