Vortiporius
Vortiporius | |
---|---|
Ganwyd | 475 ![]() |
Bu farw | 540 ![]() |
Dinasyddiaeth | Cymru ![]() |
Galwedigaeth | brenin neu frenhines ![]() |
Swydd | Teyrnas Dyfed ![]() |
Tad | Aergol Lawhir ![]() |
Un o'r pum teyrn Cymreig a gondemnir gan Gildas yn ei lyfr De Excidio Britanniae oedd Vortiporius (Hen Gymraeg: Guortepir, Gwrtheuyr neu Gw(e)rthefyr mewn Cymraeg Canol a diweddar). Roedd yn cyfoesi â Maelgwn Gwynedd, a fu farw yn 547. Ni ddylid ei gymysgu â'r Gwrthefyr arall, mab Gwrtheyrn, sy'n ymddangos dan y ffurf Ladin ar ei enw, sef Vortimer, yng ngwaith Sieffre o Fynwy.

Disgrifia Gildas ef fel teyrn y Demetae, ac felly yn frenin Teyrnas Dyfed. Fel y pedwar brenin arall, condemnir ef yn hallt gan Gildas. Mae'n ei gyhuddo o yrru ei wraig i ffwrdd, ac wedi ei marwolaeth hi iddo gymeryd ei lygru gan ei ferch ddigywilydd.
Credir fod carreg goffa, a fu ar un adeg ym mynwent Castell Dwyran ger Abernant yn Sir Gaerfyrddin, sy'n dwyn yr arysgrif Ladin hyn:
- MEMORIA VOTEPORIGIS PROTICTORIS
a'r enw 'Votecorigas' mewn llythrennau Ogam yn garreg fedd yr un Vortiporius. Ar sail y garreg fedd hon mae Henry Lewis ac eraill yn dadlau mai ffurf a luniwyd gan Gildas yw 'Vortiporius' ac mai 'Voteporix' yw'r ffurf Gymraeg Cynnar gywir.
Yng ngwaith Sieffre o Fynwy, yr Historia regum Britanniae, mae'n ymddangos fel brenin Prydain.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- Henry Lewis (gol.), Brut Dingestow (Caerdydd, 1942), tud. 276.