Gwynfe

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Cyfesurynnau: 51°52′54″N 3°51′25″W / 51.8816°N 3.8570°W / 51.8816; -3.8570

Gwynfe
Gwynfe Church - geograph.org.uk - 145852.jpg
Yr eglwys yn 2006
Lleoliad Gwynfe o fewn Cymru
Gwynfe

 Gwynfe yn: Sir Gaerfyrddin
Cyfeirnod grid yr AO SN720218
Cymuned Llangadog
Sir Sir Gaerfyrddin
Sir seremonïol Dyfed
Gwlad Cymru
Gwladwriaeth sofran Y Deyrnas Unedig
Rhanbarth cod post SA19
Heddlu Dyfed-Powys
Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru
Ambiwlans Cymru
Senedd yr Undeb Ewropeaidd Cymru
Senedd y DU Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr
Cynulliad Cymru Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr
Rhestr llefydd: y DU • Cymru • Sir Gaerfyrddin

Pentref bychan yn Sir Gaerfyrddin yw Gwynfe. Saif mewn dyffryn yn ne-ddwyrain y sir, rhwng Trichrug a llethrau gorllewinol y Mynydd Du. Fymryn i'r gorllewin o lôn yr A4069 ceir pentref a adnabyddir fel Capel Gwynfe - tua hanner ffordd rhwng Brynaman i'r de a Llangadog i'r gogledd. Mae'r ardal yn rhan o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Enwogion[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Beriah Gwynfe Evans (1848 - 1927). Treuliodd y llenor ac ymgyrchydd gwleidyddol hwn ran helaeth o'i oes yng Ngwynfe, a mabwysiadodd enw'r pentref yn enw canol iddo'i hun. Cafodd swydd fel ysgolfeistr yn ysgol y pentref o 1867 hyd 1882, a'i ddilyn gan John Williams o 1882 hyd 1909.[angen ffynhonnell]
  • Syr John Williams. Ganed y casglwr llawysgrifau Cymreig, cymwynaswr mawr Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar ei sefydliad, yn ffermdy'r Beili, yng Ngwynfe yn 1840, a'i fagu ym Mlaenllynant. Yr oedd yn feddyg geni i'r teulu brenhinol, gan gynnwys genedigaethau dau o frenhinoedd y dyfodol, sef E.F. Edward VIII ac E.F. George VI. Bu'n Llywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru o'i sefydlu yn 1907, ac hefyd Coleg Prifysgol Cymru Aberystwyth o 1913 tan ei farwolaeth yn 1926.
  • Cafodd tri o genhadwyr mwyaf adnabyddus Cymru'r 19g eu geni yn y pentref, sef William Griffith, David Williams a David Griffiths (Madagascar; 1792-1863). Cyfieithodd David Griffiths a David Jones y Beibl yn iaith y Malagas, a sefydlwyd yr iaith ysgrifenedig Falagaseg gan David Griffiths, mab Glanmeilwch, Gwynfe; mae ei fedd yng Nghapel y Graig, Machynlleth.

Ffynhonnell[golygu | golygu cod y dudalen]