Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
Jump to navigation
Jump to search
- Mae hon yn erthygl am y parc cenedlaethol. Am y mynyddoedd yr enwir y parc ar eu hôl, gweler Bannau Brycheiniog.
Parc Cenedlaethol yn ne Cymru yw Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae'r parc yn gorwedd rhwng trefi Llandeilo, Llanymddyfri, Aberhonddu, Y Gelli, Pont-y-pŵl a Merthyr Tudful. Ffurfiwyd y Parc Cenedlaethol ym 1957.
Canolbwynt y parc yw mynyddoedd uchel Bannau Brycheiniog. Yng ngorllewin y parc mae'r Fforest Fawr a'r Mynydd Du, rhostir eang, ac yn y dwyrain y tu draw i Fannau Brycheiniog mae mynyddoedd o'r un enw, Mynydd Du, ar y ffin â Lloegr.
Yn y parc mae nifer o lwybrau cerdded a lonydd beicio. Mae arwynebedd o 1344 km² ganddo. Gwelir sawl rhaeadr yn y parc, gan gynnwys Sgŵd Henrhyd sydd 27 medr o uchder. Yn ardal Ystradfellte, ceir sawl ogof nodedig, megis Ogof Ffynnon Ddu. Gwelir merlod mynydd Cymreig yn pori yn y parc.
Copaon uchaf[golygu | golygu cod y dudalen]
Mynydd Du (Mynwy)[golygu | golygu cod y dudalen]
Bannau Brycheiniog[golygu | golygu cod y dudalen]
Fforest Fawr[golygu | golygu cod y dudalen]
- Fan Llia (631 m)
- Moel Feity (591 m)
- Fan Nedd (563 m)
Mynydd Du (Sir Gaerfyrddin)[golygu | golygu cod y dudalen]
- Fan Brycheiniog
- Garreg Lwyd (616m)