Bronwydd, Sir Gaerfyrddin

Oddi ar Wicipedia
Bronwydd
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth564 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Gaerfyrddin Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd879.95 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.8964°N 4.305°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000493 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auSamuel Kurtz (Ceidwadwyr)
AS/auSimon Hart (Ceidwadwr)
Map
Am y pentrefan o'r un enw yng Ngheredigion, gweler Bronwydd, Ceredigion.

Pentref a chymuned yn Sir Gaerfyrddin, Cymru, yw Bronwydd[1][2] neu Bronwydd Arms. Saif tua thair milltir i'r gogledd o dref Caerfyrddin, ar y briffordd A484 rhwng Caerfyrddin a Chynwyl Elfed, yn nyffryn Afon Gwili. Mae Cymuned Bronwydd yn cynnwys y pentref ei hyn a phentrefi bychain Cwmdwyfran a Pentre Morgan. Cysegrwyd yr eglwys i Sant Celynin.

Daw'r enw yn wreiddiol o enw Ystad y Bronwydd ger Castell Newydd Emlyn, oedd yn berchen llawer o dir yn yr ardal yma rai canrifoedd yn ôl. Adeiladwyd tafarn y Bronwydd Arms, a rhoddodd honno ei henw i'r pentref a'r ardal. Nid yw'r hen dafarn yn bod bellach, ond mae plac yn nodi ei safle.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Samuel Kurtz (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan Simon Hart (Ceidwadwr).[4]


Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7][8]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Bronwydd, Sir Gaerfyrddin (pob oed) (564)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Bronwydd, Sir Gaerfyrddin) (309)
  
55.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Bronwydd, Sir Gaerfyrddin) (403)
  
71.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed (Bronwydd, Sir Gaerfyrddin) (99)
  
40.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 10 Chwefror 2022
  3. Gwefan Senedd Cymru
  4. Gwefan Senedd y DU
  5. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  7. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  8. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]

Dolen allanol[golygu | golygu cod]