Llwynhendy

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Pentref diwydiannol ar gyrion Llanelli yn Sir Gaerfyrddin yw Llwynhendy. Mae yng nghymuned Llanelli Wledig. Yng Nghyfrifiad 2001 roedd ganddo boblogaeth o 4,276.

Mae'r pentref yn ffinio â Bynea, Cwmcarnhywel a Phen-y-graig.Mae'n hen bentref gyda gwreiddiau diwydiannol cryf. Roedd y gwaith dur (sydd bellach wedi cau) ym Mynea wedi bod yn gyflogwr pwysig hyd at ddirywiad y diwydiant dur. Mae'r pentref yn 50 troedfedd uwchben lefel y môr ac mae'n seiliedig o amgylch Nant Caerhuan sy'n tarddu yng Ngelli, Bryn, Llanelli.Mae yna Safle WWT cyfagos â'r pentref yn hen fferm Penclacwydd- yr unig ganolfan ymddiriedolaeth bywyd gwyllt gwlyptir yng Nghymru gyfan.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae pobl wedi bod yn byw yn ardal Llwynhendy ers oes Neolithig. Yn ystod Oes yr Haearn, roedd ardal Llwynhendy a Bynea yn lle pwysig gan mai croesi yr Afon Llwchwr oedd hi i'r Rhufeiniaid. Roedd y brif Ffordd Rufeinig yn rhedeg drwy'r pentrefi ac mae bellach yn dal i gael ei ddefnyddio fel y briffordd sy'n cynnwys Heol Y Pemberton, Heol Llwynhendy, Heol Tanygraig, Heol Cwmfelin, Heol Y Bwlch a Heol Yspitty. Roedd Llwynhendy hefyd yn lle bwysig i bererinion ar y ffordd i Eglwys Gadeiriol Dewi Sant yn Sir Benfro. Yn groes i eglwys Dewi Sant yn Llwynhendy, safodd Capel Dewi, capel rhwyddineb lle gallai teithwyr aros. Heddiw dim ond adfeilion sydid ar ôl. Daeth Llwynhendy yn bentref fwyngloddio yn ystod y chwyldro diwydiannol, gyda phyllau glo Tirmynydd, Hendre, Trallwm a Phencoed yn cael eu hagor. Fodd bynnag, bu'n ardal gytûn amaethyddol ac hyd heddiw mae yna lawer o ffermydd yn amgylchynu'r pentref fel fferm Ddôl Fach a Ddôl Fawr, Techon Fawr a Llwynhendy. Gyda'r mwyngloddiau'n cau yn ystod y 1940au a'r 50au roedd llai o waith ar gael, nes agorodd Gwaith Trostre. Gyda mwy ei hangen, adeiadwyd dau stad cyngor rhwng Llwynhendy a Phemberton, ei adeiladu ar diroedd Fferm Heol Hen a Fferm Brynsierfel. Mae stadau Cwmcarnhywel a Chefncaeau yn cael eu galw'n lleol fel y maesydd Pen a gwaelod ac maent yn bentrefi eu hunain, ond weithiau maent yn cael eu hystyried yn rhan o Llwynhendy.

Iaith[golygu | golygu cod y dudalen]

Siaradir yr iaith Gymraeg gan hanner y pentrefwyr, gydag Ysgol Gymraeg Brynsierfel yng Nghwmcarnhywel gerllaw'r pentref. Yn hanesyddol, Cymraeg yw'r brif iaith yn y pentref, nes hyd at ganol y 1900au pan welwyd ddirywiad yn y nifer yn medru yn yr iaith.

Crefydd[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae tair addoldy yn gwasanaethu Llwynhendy - Capel Soar, Capel Y Tabenacl ac Eglwys Dewi Sant. Yn ddiweddar cafodd Capel Nazereth ar Barc Gitto y fan addoli i'r Methodistiaid ei gau. Cyn bod bedyddiaeth yn gyfreithlon ym Mhrydain Fawr, roedd bedyddwyr ardal Llwynhendy yn cyfarfod yn Fferm Tŷ Cwrdd (sy'n golygu'n llythrennol y man cyfarfod) ar Heol Hendre, Llwynhendy.

Addysg[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae yna un Ysgol o fewn Llwynhendy sef ysgol Bryn-Teg, yr ysgol Saesneg. Lleolir Ysgol Gymraeg Brynsierfel yng Nghwmcarnhywel, gerllaw'r pentref.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Bynea and Llwynhendy Local History Group (2000) A History of Bynea and Llwynhendy