Aneirin Talfan Davies
Aneirin Talfan Davies | |
---|---|
Ffugenw | Aneirin ap Talfan |
Ganwyd | 11 Mai 1909 Felindre |
Bu farw | 14 Gorffennaf 1980 Caerfyrddin |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd |
Plant | Geraint Talfan Davies |
Gwobr/au | OBE |
Bardd, darlledwr, a beirniad llenyddol oedd Aneirin Talfan Davies (Aneurin ap Talfan; 11 Mai 1909 – 14 Gorffennaf 1980).
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Cafodd ei eni yn Nhrefach Felindre, Sir Gaerfyrddin, lle roedd ei dad yn weinidog, ac yna mynychodd Ysgol Ramadeg Tre-gŵyr wedi i'r teulu symud i Dre-gŵyr. Yn ystod y tridegau aeth i weithio i Lundain fel fferyllydd cyn dychwelyd ac ymsefydlu yn Abertawe. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd dechreuodd weithio i'r BBC yn Abertawe, ac yn ddiweddarach daeth yn Rheolwr y BBC yng Nghymru, ac fe gynhyrchodd rhai o weithiau cynnar Dylan Thomas. Yn dilyn marwolaeth Dylan ysgrifennodd astudiaeth o'i waith fel bardd crefyddol. Cyfieithodd farddoniaeth Christina Rossetti i'r Gymraeg, a golygu llythyron David Jones a fu'n ddylanwad pwysig ar Aneirin Talfan.[1]
Roedd yn frawd i'r Barnwr Alun Talfan Davies. Gyda'i frawd sefydlodd y wasg a'r tŷ cyhoeddi Llyfrau'r Dryw yn Llandybie, a ddaeth yn ddiweddarach yn Christopher Davies. Sefydlodd hefyd y cylchgrawn Heddiw a gyda'i frawd y cylchgrawn Barn.
Ei fab yw Geraint Talfan Davies sydd wedi dal sawl swydd o bwys yng Nghymru
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Y Ddau Lais (1937). Cerddi.
- Yr Alltud (1944). Astudiaeth o waith James Joyce.
- Y Tir Diffaith (1946). Astudiaeth o waith T. S. Eliot.
- Eliot, Pwshcin, Poe (1948). Astudiaeth.
- Gwŷr Llên (1948). Beirniadaeth lenyddol.
- (golygydd) Blodeugerdd o Englynion (1950)
- (golygydd) Munudau gyda'r beirdd (1954)
- Crwydro Sir Gâr, Cyfres Crwydro Cymru (1955)
- Sylwadau (1957)
- Pregethau a Phregethu'r Eglwys (1957)
- (golygydd) Englynion a Chywyddau (1958)
- Dylan: Druid of the Broken Body (1964)
- Yr Etifeddiaeth Dda (1967)
- Gyda Gwawr y Bore (1970)
- Crwydro Bro Morgannwg, 2 gyfrol, Cyfres Crwydro Cymru (1972, 1976)
- Diannerch Erchwyn a Cherddi Eraill (1976). Cerddi.
- David Jones: Letters to a Friend (1979). Astudiaeth.
Astudiaethau
[golygu | golygu cod]- Ifor Rees (gol.), Bro a Bywyd: Aneirin Talfan Davies 1909-1980 (Cyhoeddiadau Barddas, 1992)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Davies, John (Ed) (2008). The Welsh Academy Encyclopaedia of Wales. Cardiff: University of Wales Press. tt. 196 & 1975. ISBN 978-0-7083-1953-6.CS1 maint: extra text: authors list (link)