Gwasg Christopher Davies

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Christopher Davies)
Jump to navigation Jump to search
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynol cyhoeddwr Edit this on Wikidata
Daeth i ben 21 Chwefror 2017 Edit this on Wikidata
Rhan o y fasnach lyfrau yng Nghymru Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu 24 Rhagfyr 1949 Edit this on Wikidata
Rhagflaenydd Llyfrau'r Dryw Edit this on Wikidata
Pencadlys Abertawe Edit this on Wikidata

Cyhoeddwyr yn Abertawe oedd Gwasg Christopher Davies. Enwyd y wasg ar ôl Christopher Humphrey Talfan Davies, cyfreithiwr o Abertawe, a mab Alun Talfan Davies a gyd-sefydlodd y wasg.[1]

Rhagflaenwyd Christopher Davies (Cyhoeddwyr) Cyf gan Lyfrau'r Dryw, sef tŷ cyhoeddi Cymraeg a fu'n rhan ganolog o'r byd cyhoeddi o'r 1940au hyd y 1970au. Sefydlwyd Llyfrau'r Dryw yn Llandybie yn 1940 gan y llenor Aneirin Talfan Davies a'i frawd Alun Talfan Davies. Lleihaodd cynnyrch y wasg yn y 1970au a daeth yn rhan o Gwmni Christopher Davies (Abertawe), mab Alun Talfan Davies, sef ochr gyhoeddi Saesneg y wasg, yn wreiddiol.

Yn ôl Tŷ'r Cwmniau, daeth Christopher Davies (Cyhoeddwyr) Cyf (rhif 00476492) i ben ar 21 Chwefror 2017. Cyfeiriad ola'r cwmni oedd Druslyn House, De La Beche Street, Swansea, SA1 3HJ ac enwyd 1 cyfarwyddwr: Emyr Wyn Nicholas, a benodwyd 1 Rhagfyr 2010 a 4 cyngyfarwyddwr a ymddiswyddodd ar 1 Rhagfyr 2010, sef: Kathryn Elizabeth Talfan Colayera, Christopher Humphrey Talfan Davies a Dilys Morwenna Davies.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. checkcompany.co.uk; adalwyd 6 Gorffennaf 2020.
  2. [https://beta.companieshouse.gov.uk/company/00476492/officers beta.companieshouse.gov.uk, Tŷ'r Cwmniau; adalwyd 6 Gorffennaf 2020.