Gwasg Christopher Davies
| Enghraifft o: | cyhoeddwr |
|---|---|
| Daeth i ben | 21 Chwefror 2017 |
| Rhan o | y fasnach lyfrau yng Nghymru |
| Dechrau/Sefydlu | 24 Rhagfyr 1949 |
| Rhagflaenwyd gan | Llyfrau'r Dryw |
| Sylfaenydd | Christopher Humphrey Talfan Davies |
| Rhagflaenydd | Llyfrau'r Dryw |
| Pencadlys | Abertawe |
| Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
| Dynodwyr | |
Cyhoeddwyr yn Abertawe oedd Gwasg Christopher Davies. Enwyd y wasg ar ôl Christopher Humphrey Talfan Davies, cyfreithiwr o Abertawe, a mab Alun Talfan Davies a gyd-sefydlodd y wasg.[1]
Rhagflaenwyd Christopher Davies (Cyhoeddwyr) Cyf gan Lyfrau'r Dryw, sef tŷ cyhoeddi Cymraeg a fu'n rhan ganolog o'r byd cyhoeddi o'r 1940au hyd y 1970au. Sefydlwyd Llyfrau'r Dryw yn Llandybie yn 1940 gan y llenor Aneirin Talfan Davies a'i frawd Alun Talfan Davies. Lleihaodd cynnyrch y wasg yn y 1970au a daeth yn rhan o Gwmni Christopher Davies (Abertawe), mab Alun Talfan Davies, sef ochr gyhoeddi Saesneg y wasg, yn wreiddiol.
Yn ôl Tŷ'r Cwmnïau, daeth Christopher Davies (Cyhoeddwyr) Cyf (rhif 00476492) i ben ar 21 Chwefror 2017. Cyfeiriad ola'r cwmni oedd Druslyn House, De La Beche Street, Swansea, SA1 3HJ ac enwyd 1 cyfarwyddwr: Emyr Wyn Nicholas, a benodwyd 1 Rhagfyr 2010 a 4 cyngyfarwyddwr a ymddiswyddodd ar 1 Rhagfyr 2010, sef: Kathryn Elizabeth Talfan Colayera, Christopher Humphrey Talfan Davies a Dilys Morwenna Davies.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ checkcompany.co.uk; adalwyd 6 Gorffennaf 2020.
- ↑ beta.companieshouse.gov.uk, Tŷ'r Cwmnïau; adalwyd 6 Gorffennaf 2020.