Castell y Dryslwyn

Oddi ar Wicipedia
Castell y Dryslwyn
Mathcastell, safle archaeolegol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadLlangathen Edit this on Wikidata
SirSir Gaerfyrddin
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr60.3 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.8631°N 4.10133°W Edit this on Wikidata
Rheolir ganCadw Edit this on Wikidata
Map
PerchnogaethCadw Edit this on Wikidata
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd I Edit this on Wikidata
Manylion

Castell yn Sir Gaerfyrddin yw Castell y Dryslwyn. Saif ar ben bryn yn Nyffryn Tywi ger pentref Dryslwyn. Tua 4 milltir i ffwrdd mae Castell Dinefwr, prif gaer a llys tywysogion Deheubarth.

Hanes[golygu | golygu cod]

Adeiladwyd y castell cyntaf gan Rhys Gryg, un o feibion yr Arglwydd Rhys, yn y 1220au. Fe'i hetifeddwyd gan ei fab Maredudd ap Rhys Gryg a'i fab yntau Rhys ap Maredudd. Gwarchaewyd y castell gan luoedd Seisnig yn 1287, gan gwympo ar 5 Medi yn yr un flwyddyn. Yn ôl adroddiad gan Scott Lloyd a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, dyma'r gwarchae a asudiwyd ddyfnaf drwy Gymru, gyda nifer o ddulliau gwahanol a manwl yn cael eu gwneud yn 20g a'r 21g. Ceir yma olion o beiriannau rhyfel a ddefnyddiwyd i geisio codi'r gwarchae a gwyddys i Edward i Edward I, brenin Lloegr, ddanfon 11,000 o filwyr i geisio hynny - cymaint oedd ei benderfyniad i oresgyn Cymru.[1] Cred haneswyr, felly, fod y gwarchae hwn ymhlith y pwysicaf yng Nghymru.

O dan reolaeth Seisnig estynnwyd y dref fechan oedd wedi datblygu ar lethrau'r bryn. Cipiodd Owain Glyndŵr Gastell y Dryslwyn ym 1403, ond dymchwelwyd y castell nes ymlaen yn y 15g.

Cadwraeth a mynediad[golygu | golygu cod]

Mae'r adfeilion a welir ar y safle heddiw yng ngofal Cadw. Mae'n agored trwy'r flwyddyn i bawb. Mae'r safle (SN 554 204) yn ymyl y B4297, 5 milltir i'r de-orllewin o Landeilo.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]