Hefin David
| Dr Hefin David AS | |
|---|---|
Hefin David yn 2021 | |
| Aelod o'r Senedd dros Caerffili | |
| Mewn swydd 6 Mai 2016 – 12 Awst 2025 | |
| Rhagflaenwyd gan | Jeff Cuthbert |
| Dilynwyd gan | Lindsay Whittle |
| Mwyafrif | 1,575 |
| Manylion personol | |
| Ganwyd | 13 Awst 1977 Caerffili |
| Bu farw | 12 Awst 2025 (47 oed) Nelson |
| Plaid wleidyddol | Llafur Cymru |
| Gwefan | Tudalen ar facebook |
Gwleidydd Llafur Cymru oedd Hefin Wyn David (13 Awst 1977 – 12 Awst 2025).[1] Roedd e'n Aelod o'r Senedd dros etholaeth Caerffili. Roedd hefyd yn gynghorydd ar Gyngor Bwrdeistref Caerffili dros ward Catwg Sant.[2]
Addysg
[golygu | golygu cod]Roedd gan David BScEcon mewn Economeg a Gwleidyddiaeth, MScEcon mewn Polisi Ewropeaidd o Brifysgol Caerdydd, PGCE o Brifysgol Cymru, Casnewydd a PhD o Brifysgol Swydd Gaerloyw. Darlithiodd mewn Ymddygiad Cyfundrefnol a Rheolaeth Adnoddau Dynol ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd.[3]
Gyrfa wleidyddol
[golygu | golygu cod]Dewiswyd David fel ymgeisydd newydd Llafur Cymru dros etholaeth Castell-nedd ar gyfer etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2016 yn dilyn ymddeoliad yr aelod blaenorol Jeff Cuthbert.[4] Ar 5 Mai 2016, cafodd ei ethol yn Aelod Cynulliad; derbyniodd 9,584 o'r 27,1153 pleidlais a fwriwyd (35.3%).[5]
Bywyd personol a marwolaeth
[golygu | golygu cod]Roedd ganddo ddau o blant gyda'i gyn-wraig, Anna.[6] Roedd yn bartner i Aelod Senedd Cwm Cynon, Vikki Howells.
Bu farw ar 12 Awst 2025, yn 47 mlwydd oed.[1] Galwyd yr heddlu i gyfeiriad ym mhentref Nelson yng Nghaerffili ar nos Fawrth. Cafodd ei gadarnhau'n farw gan barafeddygon y gwasanaeth ambiwlans yn y fan a'r lle, a nid oedd ei farwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus.[7]
Ar 26 Awst 2025, cadarnhaodd Llys Crwner Gwent fod rhaid aros am adroddiad tocsicoleg er mwyn pennu achos y farwolaeth, a chynhelir cwest llawn i'w farwolaeth ym mis Ebrill 2026.[8][9] Wrth agor y cwest, cofnododd y Crwner Caroline Saunders mai hunanladdiad oedd achos ei farwolaeth, gyda'r achos meddygol wedi ei gofnodi fel crogi.[10]
Cynhaliwyd ei angladd ar 1 Medi 2025 a daeth cannoedd o bobl i'r gwasanaeth yn Eglwys St Catwg, Gelli-gaer yn Sir Caerffili. Arweinwyd y gwasanaeth gan y Parchedig Gary Powell ac roedd nifer o bobl wedi ymgynnull y tu allan yn gwrando ar y gwasanaeth drwy uchelseinydd. Daeth y gwasanaeth i ben gyda'r gân I Bob Un Sy'n Ffyddlon, cyn i'r gwasanaeth symud i Amlosgfa Thornhill.[11]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 "Yr AS Llafur Hefin David wedi marw'n 47 oed". newyddion.s4c.cymru. 2025-08-13. Cyrchwyd 2025-08-13.
- ↑ (Saesneg) Councillor Hefin Wyn David. Cyngor Caerffili. Adalwyd ar 9 Mai 2016.
- ↑ (Saesneg) Staff - Dr Hefin David. Prifysgol Metropolitan Caerdydd. Adalwyd ar 9 Mai 2016.
- ↑ Caerphilly councillors selected as Welsh Assembly candidates for Caerphilly and Islwyn , Caerphilly Observer, 14 Gorffennaf 2015. Cyrchwyd ar 9 Mai 2016.
- ↑ Etholaeth Caerffili (Cynulliad). BBC Cymru Fyw. Adalwyd ar 9 Mai 2016.
- ↑ "Agenda for Children, Young People and Education Committee - Fifth Senedd on Thursday, 25 February 2021, 09.15". business.senedd.wales (yn Saesneg). 2021-03-04. Cyrchwyd 2023-07-19.
- ↑ "Yr Aelod o'r Senedd, Hefin David, wedi marw'n sydyn yn 47 oed". BBC Cymru Fyw. 2025-08-13. Cyrchwyd 2025-08-13.
- ↑ Jones, Teleri Glyn (2025-08-26). "Politician Hefin David found dead at home - inquest" (yn Saesneg). BBC News. Cyrchwyd 2025-08-31.
- ↑ PA, George Thompson; Hickey, Alex (2025-08-26). "Inquest confirms cause of Welsh politician's tragic death". North Wales Live (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-08-26.
- ↑ "Hefin David AS wedi dod â'i fywyd ei hun i ben - cwest". BBC Cymru Fyw. 2026-01-19. Cyrchwyd 2026-01-19.
- ↑ "Cannoedd yn mynychu angladd yr Aelod o'r Senedd Hefin David". BBC Cymru Fyw. 2025-09-01. Cyrchwyd 2025-09-01.