Laura Anne Jones
| Laura Anne Jones AS | |
|---|---|
![]() | |
| Aelod o'r Senedd dros Ddwyrain De Cymru | |
Deiliad | |
| Cychwyn y swydd 6 Gorffennaf 2020 | |
| Rhagflaenwyd gan | Mohammad Asghar |
| Mewn swydd 3 Mai 2003 – 1 Mai 2007 | |
| Rhagflaenwyd gan | Phil Williams |
| Dilynwyd gan | Mohammad Asghar |
| Manylion personol | |
| Ganwyd | 2 Chwefror 1979 Casnewydd |
| Plaid wleidyddol | Reform UK |
| Yn aelod o | Ceidwadwyr (1996-2025) |
| Alma mater | Prifysgol Plymouth |
Gwleidydd o Gymraes yw Laura Anne Jones (ganwyd 21 Chwefror 1979). Mae hi'n Aelod o'r Senedd dros ranbarth dwyrain De Cymru. Mae hi'n byw ym Mrynbuga.
Fe'i etholwyd fel Aelod Cynulliad dros Ddwyrain De Cymru am y tro cyntaf yn 2003 a hi oedd yr AC ieuengaf ar y pryd. Roedd yn llefarydd chwaraeon i'r Ceidwadwyr. Collodd ei sedd yn etholiad 2007 pan enillodd Plaid Cymru sedd ychwanegol ar restr rhanbarthol Dwyrain De Cymru.
Dychwelodd i'r Senedd yn dilyn marwolaeth Mohammad Asghar yn 2020. Hi oedd yr ail ar y rhestr rhanbarthol i'r Ceidwadwyr.[1]
Bu'n ffigwr dadleuol yn ystod ei chyfnod gyda'r Ceidwadwyr. Yn 2007, fel hawliodd dros £1,000 am deledu newydd. Roedd hi'n gofyn i'w staff ychwanegu mwy nag oedd hi wedi'i deithio i'w ceisiadau am dreuliau, ac yn 2024 cynhaliwyd ymchwiliad i'w threuliau.[2] Oddeutu 2011, fe gyhoeddodd Laura Anne Jones y hoffai hi "saethu chavs" a dywedodd ei fod yn drueni nad oedd hynny'n gyfreithlon.[3]
Ar 22 Gorffennaf 2025, gadawodd blaid y Ceidwadwyr gan ymuno a Reform UK.[4]
Ym mis Awst 2023, defnyddiodd sarhad hiliol i ddisgrifio pobl Tsieineaidd mewn sgwrs WhatsApp. Ar 19 Tachwedd 2025, yn dilyn ymchwiliad, pleidleisiodd y Senedd i'w gwahardd o'r sefydliad am 14 diwrnod.[5]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Cadarnhau Laura Anne Jones fel Aelod o’r Senedd dros Ddwyrain De Cymru. Senedd Cymru (2 Gorffennaf 2020).
- ↑ "AS ffrae treuliau yn 'camu'n ôl' o gabinet y Ceidwadwyr". BBC Cymru Fyw. 2024-06-14. Cyrchwyd 2025-08-20.
- ↑ "Tory MS Laura Anne Jones sorry for old 'shooting chavs' Facebook post" (yn Saesneg). 2021-03-08. Cyrchwyd 2025-08-20.
- ↑ "Yr AS Laura Anne Jones yn ymuno â Reform UK". newyddion.s4c.cymru. 2025-07-22. Cyrchwyd 2025-07-23.
- ↑ "Cadarnhau gwaharddiad AS Reform Laura Anne Jones am bythefnos". BBC Cymru Fyw. 2025-11-19. Cyrchwyd 2025-11-19.
| Senedd Cymru | ||
|---|---|---|
| Rhagflaenydd: Mohammad Asghar |
Aelod Cynulliad dros Ddwyrain De Cymru 2020 – |
Olynydd: deiliad |
| Rhagflaenydd: Phil Williams |
Aelod Cynulliad dros Ddwyrain De Cymru 2003 – 2007 |
Olynydd: Mohammad Asghar |
| Rhagflaenydd: Jonathan Morgan |
Baban y Cynulliad 2003 – 2007 |
Olynydd: Bethan Jenkins |
- Egin pobl o Gymru
- Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2003–2007
- Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2016–2021
- Aelodau Senedd Cymru 2021-2026
- Genedigaethau 1979
- Gwleidyddion yr 21ain ganrif o Gymru
- Gwleidyddion y Blaid Geidwadol (DU)
- Pobl o Gasnewydd
- Merched yr 20fed ganrif o Gymru
- Merched yr 21ain ganrif o Gymru
